Amdanom Ni Mae CYDAG yn gorff cenedlaethol gweithgar a blaengar sy’n darparu llais cryf, cefnogaeth strategol a chyfleoedd datblygu i ysgolion Cymraeg a dwyieithog Cymru. Sefydlwyd CYDAG yn wreiddiol er mwyn ymateb i anghenion, pryderon, a dyheadau ysgolion, ac mae’r egwyddorion hynny’n parhau i fod wrth wraidd ei gweledigaeth.
Nod CYDAG yw cefnogi a grymuso’r sector addysg Gymraeg drwy:
· Hyrwyddo a chefnogi datblygiad addysg Gymraeg
· Hwyluso cydweithio drwy gymunedau dysgu proffesiynol
· Sefydlu a chydlynu rhwydweithiau cenedlaethol ar gyfer ysgolion
· Annog a hwyluso rhannu arfer dda ac arbenigedd addysgol
· Dathlu a rhannu llwyddiannau ysgolion a’r gweithlu addysg
· Gweithredu fel partner strategol yn y sector addysg, ac yn arbennig ym maes addysg Gymraeg
· Darparu llais cryf a chefnogaeth i’r proffesiwn addysg Gymraeg.
Swyddogion
-
Dr Gwennan Schiavone
Prif Weithredwr
-
Rhodri Gwyn Jones
Arweinydd Cynradd
-
Jonathan Thomas
Arweinydd Uwchradd
-
Lowri Morris
Cydlynydd Prosiectau a Digwyddiadau
Bwrdd Cyfarwyddwyr
Bwrdd y Cyfarwyddwyr yw bwrdd rheoli CYDAG. Mae’n cynnwys cynrychiolaeth o blith penaethiaid ysgolion cynradd, uwchradd a phob oed.
Dafydd Hughes (Cadeirydd)
Gethin Richards (Is-gadeirydd)
Owain Gethin Davies
Owain Jones
Dafydd Rhys
Karen Thomas
Sedd Gwag (Uwchradd)
Sedd Gwag (Cynradd)
Pwyllgor Gwaith Cynradd
Diben y Pwyllgor Gwaith Cynradd yw cynnal trafodaeth barhaus rhwng swyddogion CYDAG a chynrychiolaeth o’i aelodau gyda’r nod o sicrhau fod CYDAG yn gorff sy’n ymgynghori’n barhaus â’r ysgolion; yn gwrando ar eu llais, ac yn ymateb i’w anghenion a’u dyheadau. Mae trafodaethau’r pwyllgorau gwaith yn cyfrannu at y gwaith o lunio cynlluniau gwaith a gweithgareddau CYDAG.
Pwyllgor Gwaith Cynradd
Gethin Richards, Pennaeth, Ysgol y Bedol (Sir Gaerfyrddin) (Cadeirydd)
Karen Thomas, Pennaeth, Ysgol Lon Las, Abertawe (Abertawe) (Is-gadeirydd)
Sara David, Pennaeth, Ysgol Gymraeg y Cwm, Bon-y-maen (Abertawe)
Berian Wyn Jones, Pennaeth, Ysgol Gymraeg Tan-y-lan (Abertawe)
Gwyn Jones, Pennaeth, Ysgol Croes Atti, Fflint (Sir y Fflint)
Dyfan Phillips, Pennaeth, Ysgol y Llys, Prestatyn (Sir Ddinbych)
Mari Phillips, Pennaeth, Ysgol y Berllan Deg (Caerdydd)
Dafydd Rhys, Pennaeth, Ysgol Bod Alaw (Conwy)
Neris Thomas-Samuel, Pennaeth, Ysgol Llechyfedach ac Ysgol y Tymbyl, a Phennaeth Dros Dro Ysgol Pum Heol (Sir Gaerfyrddin)
Nia Thomas-Evans, Pennaeth, Ffederasiwn Ysgol Dyffryn Dulas, Corris ac Ysgol Pennal (Gwynedd)
Meilir Tomos, Pennaeth, Ysgol Glan Morfa, Sblot, Caerdydd (Caerdydd)
Pwyllgor Gwaith Uwchradd
Diben y Pwyllgor Gwaith Uwchradd yw cynnal trafodaeth barhaus rhwng swyddogion CYDAG a chynrychiolaeth o’i ysgolion, gyda’r nod o sicrhau fod CYDAG yn gorff sy’n ymgynghori’n barhaus â’r ysgolion; yn gwrando ar eu llais, ac yn ymateb i’w anghenion a’u dyheadau. Mae trafodaethau’r pwyllgorau gwaith yn cyfrannu at y gwaith o lunio cynlluniau gwaith a gweithgareddau CYDAG.
Pwyllgor Gwaith Uwchradd
Dafydd Hughes, Pennaeth, Ysgol Caer Elen (Sir Benfro) (Cadeirydd)
Owain Gethin Davies, Pennaeth, Ysgol Dyffryn Conwy (Conwy) (Is-gadeirydd)
Sian Alwen, Pennaeth, Ysgol Glan Clwyd (Sir Ddinbych)
Owain Jones, Pennaeth, Ysgol Gyfun Aberaeron (Ceredigion)
Arwyn Thomas, Pennaeth, Ysgol Gyfun Maes y Gwendraeth (Sir Gaerfyrddin)
Sedd Gwag
Sedd Gwag
Sedd Gwag