Back to All Events

Cynhadledd Flynyddol CYDAG Cynradd 2026

  • Gwesty'r Marine Aberystwyth (map)

CYNHADLEDD FLYNYDDOL GENEDLAETHOL CYDAG CYNRADD 2026 - Y DIWEDDARAF O'R BYD ADDYSG GYNRADD

16 Hydref 2026 | Gwesty'r Marine, Aberystwyth

Ymunwch â chymuned arweinwyr addysg gynradd Cymru yng Nghynhadledd Flynyddol CYDAG Cynradd 2026 – cyfle gwerthfawr i rwydweithio, rhannu arferion effeithiol a chael y diweddaraf am ddatblygiadau cenedlaethol ym maes addysg.

Rhaglen y Gynhadledd

Bydd y gynhadledd yn cynnwys cyfraniadau gan arweinwyr a dylanwadwyr blaenllaw ym maes addysg, gan gynnwys:

  • Alun Jones, Pennaeth Tîm Gwella Addysg, Llywodraeth Cymru

  • Dr Gwenllian Lansdown, Prif Weithredwr Dysgu

  • Dr Manon Jones, Prifysgol Bangor / CAL:ON

  • Dr Sian Wyn SiencynSut mae trochi'n effeithiol?

  • Richard Thomas, AEF Estyn – diweddariad ar waith yn y sector cynradd

Bydd sesiynau ychwanegol yn cael eu cyhoeddi dros y misoedd nesaf.

Costau

  • Aelodau CYDAG: £120

  • Cyfradd safonol: £150

Noson Gymdeithasol CYDAG Cynradd 2026

15 Hydref 2026 | Gwesty'r Marine, Aberystwyth

Cynhelir noson gymdeithasol y gynhadledd y noson flaenorol, gan roi cyfle i gydweithwyr o bob cwr o Gymru rwydweithio a chryfhau cysylltiadau proffesiynol mewn awyrgylch anffurfiol.

Opsiynau Presenoldeb

Opsiwn 1

  • Swper tri chwrs, llety a brecwast

  • £190 (ystafell â golygfa o'r môr)

  • £165 (ystafell safonol)

Opsiwn 2

  • Llety a brecwast yn unig

  • £145 (ystafell â golygfa o'r môr)

  • £120 (ystafell safonol)

Opsiwn 3

  • Swper yn unig – £45

Cadwch y Dyddiad

Mae Cynhadledd Flynyddol CYDAG Cynradd yn ddigwyddiad allweddol yng nghalendr arweinyddiaeth addysg Cymru. Cadwch y dyddiad nawr a chadwch olwg am ragor o wybodaeth am y rhaglen a'r trefniadau cofrestru yn fuan

Previous
Previous
2 October

Sioe Addysg Genedlaethol - Caerdydd