Back to All Events

Rhaglen Hyfforddiant Asesu ar gyfer Dysgu Shirley Clarke - Diwrnod 2

  • Ysgol Bro Dur, Port Talbot (map)

Rhaglen Hyfforddiant Asesu ar gyfer Dysgu Shirley Clarke

Mae CYDAG yn falch o gynnig rhaglen hyfforddiant ddatblygiadol dros dri diwrnod gyda Shirley Clarke, sy'n canolbwyntio ar ddatblygu a chryfhau arferion Asesu ar gyfer Dysgu mewn ysgolion.

Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno dros dri chyfnod, gan roi cyfle i gyfranogwyr ddatblygu eu dealltwriaeth, rhoi'r dysgu ar waith yn eu lleoliadau rhwng y sesiynau, ac yna myfyrio ar eu profiadau a'u heffaith wrth ddatblygu ymhellach drwy gydol y rhaglen.

Dyddiadau'r Rhaglen

  • Diwrnod 1: 29 Medi 2026

  • Diwrnod 2: 13 Ebrill 2027

  • Diwrnod 3: 25 Mai 2027

Gan fod y tri diwrnod yn rhan o un rhaglen ddatblygiadol, disgwylir i'r cyfranogwyr fynychu pob sesiwn er mwyn cael y budd mwyaf o'r hyfforddiant.

Bydd Diwrnod 2 yn adeiladu ar y dysgu o'r sesiwn gyntaf ac yn cynnwys cyfleoedd i fyfyrio ar y gwaith sydd wedi'i weithredu yn yr ysgol. Bydd Diwrnod 3 yn canolbwyntio ar rannu profiadau, dysgu ac effaith y gwaith datblygu.

Amseroedd

  • 8:30yb - 9:00yb: Cyrraedd a chofrestru

  • 9:00yb: Dechrau'r hyfforddiant

  • 3:30yp: Gorffen

Lleoliad

Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur
Safle Port Talbot
SA12 7EQ

Mae parcio ar gael ym maes parcio'r staff, a bydd aelodau o'r tîm wrth law i groesawu a chyfeirio cyfranogwyr i'r ystafell hyfforddi.

Llawlyfr y Rhaglen

Bydd pob cyfranogwr yn derbyn llawlyfr cynhwysfawr ar Ddiwrnod 1 sy'n cynnwys sleidiau'r cyflwyniadau a deunyddiau ategol i'w defnyddio drwy gydol y rhaglen.

Nid oes angen paratoi unrhyw beth ymlaen llaw. Bydd yr holl weithgareddau a'r tasgau datblygu rhwng y sesiynau yn cael eu hamlinellu gan Shirley Clarke yn ystod y rhaglen.

Edrychwn ymlaen at groesawu cyfranogwyr i'r rhaglen gyffrous hon ac at y cyfle i gydweithio i ddatblygu arferion Asesu ar gyfer Dysgu ar draws ysgolion Cymru.

Previous
Previous
9 April

Hyfforddiant Darllen - Beth Nesaf? Mewn Byd o Eiriau! Llandrindod

Next
Next
29 April

Hyfforddiant Darllen - Tric a Chlic, Abersytwyth