Back to All Events

Ein Llais Ni - Diwrnod 2 - Abertawe

Mae'n bleser gan CYDAG cyflwyno rhaglen 3 diwrnod 'Ein Llais Ni' a fydd yn cael ei gynnal yng Ngwesty'r Village, Abrtawe ar 4.11.26, 20.1.27, 26.5.27  - AM DDIM!  Mae 'Ein Llais Ni' yn raglen sydd wedi cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru  a'i ddylunio gan arbenigwyr ym Mhrifysgol Cymru Bangor a chonsortia'r gogledd.

Bwriad Ein Llais Ni yw amlygu pwysigrwydd llafaredd yng nghwricwlwm yr ysgol a chynnig syniadau a strategaethau y gall ysgolion/athrawon eu datblygu er mwyn annog a hybu medrau siarad a gwrando dysgwyr. Wrth i bob athro roi sylw bwriadus i lafaredd fe fydd yn galluogi cynnydd mewn hyder a lles dysgwyr, eu caniatáu i adeiladu perthynas â’u cyfoedion, a’u cefnogi i ddyfnhau eu dealltwriaeth ar draws y meysydd dysgu drwy’r Gymraeg.

Mae’r rhaglen yn eich cynorthwyo i adnabod a datblygu 7 elfen penodol sydd ynghlwm â datblygu llafaredd y Gymraeg. Mae’r graffeg isod yn amlygu’r elfennau hyn ac o fewn y wefan bydd canllawiau ac arweiniad i’ch cefnogi i wreiddio a gwneud newid hir-dymor. Bydd yn arwain at gynnydd mewn hyder a safonau Cymraeg eich dysgwyr.

Bydd lluniaeth a chinio'n cael ei ddarparu ar y 3 diwrnod. 

TROSOLWG

Bydd y rhaglen yn addas ar gyfer pob athro, cynradd ac uwchradd ac yn canolbwyntio ar ddatblygu llafaredd Cymraeg ar draws y cwricwlwm

 Dyma’r math o gynnwys sydd i’r rhaglen:

Diwrnod 1:

  • Deall pwysigrwydd llafaredd a sgiliau cyfathrebu a’u cyfraniad allweddol tuag at gyflawni’r pedwar diben

  • Cyfle i ddefnyddio adnoddau ymarferol Ein Llais Ni i fyfyrio ar ansawdd darpariaeth a safonau llafaredd Cymraeg ar draws y cwrciwlwm

  • Defnyddio’r ‘4 Cam Athro’ i gefnogi addysgeg da a chynllunio profiadau siarad a gwrando Cymraeg cyfoethog

 Diwrnod 2:

  • Cynllunio ar gyfer defnyddio dulliau digidol i ysgogi a chofnodi tasgau llafar

  • Datblygu technegau trafod effeithiol mewn grŵp i godi hyder pob dysgwr wrth siarad a gwrando’n gydweithredol

  • Dulliau ac adnoddau ar gyfer cynllunio ac asesu dilyniant a chynnydd mewn sgiliau siarad a gwrando

 Diwrnod 3:

  • Cwestiynu effeithiol - datblygu sgiliau cwestiynu’r athro i wella cyfraniadau’r dysgwyr a dyfnhau eu dealltwriaeth

  • Strategaethau defnyddiol i ddatblygu geirfa er mwyn gwella sgiliau llythrennedd a dealltwriaeth ar draws y Meysydd Dysgu a Phrofiad

  • Dod a pawb efo chi!! Adnoddau a chanllawiau ar gyfer hunanwerthuso ac arwain gwelliant drwy’r ysgol

Fe fydd disgwyl i bawb sy'n mynychu ddefnyddio gwybodaeth o’r diwrnod i gynllunio a threialu cyfleoedd ymarferol ar gyfer eu dosbarth i’w trafod yn ystod diwrnod 2 a 3.

Previous
Previous
15 January

Hyfforddiant Darllen - Beth Nesaf? Mewn Byd o Eiriau! Llandudno

Next
Next
21 January

Hyfforddiant Darllen - Tric a Chlic, Caerfyrddin