Mae'n bleser gan CYDAG cyflwyno rhaglen 3 diwrnod 'Ein Llais Ni' a fydd yn cael ei gynnal ym mhrifysgol Bangor (LL57 2TW) ar y 20.10.26, 13.01.27 a 19.05.27 - AM DDIM! Mae 'Ein Llais Ni' yn raglen sydd wedi cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a'i ddylunio gan arbenigwyr ym Mhrifysgol Cymru Bangor a chonsortia'r gogledd.
Bwriad Ein Llais Ni yw amlygu pwysigrwydd llafaredd yng nghwricwlwm yr ysgol a chynnig syniadau a strategaethau y gall ysgolion/athrawon eu datblygu er mwyn annog a hybu medrau siarad a gwrando dysgwyr. Wrth i bob athro roi sylw bwriadus i lafaredd fe fydd yn galluogi cynnydd mewn hyder a lles dysgwyr, eu caniatáu i adeiladu perthynas â’u cyfoedion, a’u cefnogi i ddyfnhau eu dealltwriaeth ar draws y meysydd dysgu drwy’r Gymraeg.
Mae’r rhaglen yn eich cynorthwyo i adnabod a datblygu 7 elfen penodol sydd ynghlwm â datblygu llafaredd y Gymraeg. Mae’r graffeg isod yn amlygu’r elfennau hyn ac o fewn y wefan bydd canllawiau ac arweiniad i’ch cefnogi i wreiddio a gwneud newid hir-dymor. Bydd yn arwain at gynnydd mewn hyder a safonau Cymraeg eich dysgwyr.
Bydd lluniaeth a chinio'n cael ei ddarparu ar y 3 diwrnod. Cofrestrwch drwy ddilyn y linc isod.
TROSOLWG
Bydd y rhaglen yn addas ar gyfer pob athro, cynradd ac uwchradd ac yn canolbwyntio ar ddatblygu llafaredd Cymraeg ar draws y cwricwlwm
Dyma’r math o gynnwys sydd i’r rhaglen:
Diwrnod 1:
Deall pwysigrwydd llafaredd a sgiliau cyfathrebu a’u cyfraniad allweddol tuag at gyflawni’r pedwar diben
Cyfle i ddefnyddio adnoddau ymarferol Ein Llais Ni i fyfyrio ar ansawdd darpariaeth a safonau llafaredd Cymraeg ar draws y cwrciwlwm
Defnyddio’r ‘4 Cam Athro’ i gefnogi addysgeg da a chynllunio profiadau siarad a gwrando Cymraeg cyfoethog
Diwrnod 2:
Cynllunio ar gyfer defnyddio dulliau digidol i ysgogi a chofnodi tasgau llafar
Datblygu technegau trafod effeithiol mewn grŵp i godi hyder pob dysgwr wrth siarad a gwrando’n gydweithredol
Dulliau ac adnoddau ar gyfer cynllunio ac asesu dilyniant a chynnydd mewn sgiliau siarad a gwrando
Diwrnod 3:
Cwestiynu effeithiol - datblygu sgiliau cwestiynu’r athro i wella cyfraniadau’r dysgwyr a dyfnhau eu dealltwriaeth
Strategaethau defnyddiol i ddatblygu geirfa er mwyn gwella sgiliau llythrennedd a dealltwriaeth ar draws y Meysydd Dysgu a Phrofiad
Dod a pawb efo chi!! Adnoddau a chanllawiau ar gyfer hunanwerthuso ac arwain gwelliant drwy’r ysgol
Fe fydd disgwyl i bawb sy'n mynychu ddefnyddio gwybodaeth o’r diwrnod i gynllunio a threialu cyfleoedd ymarferol ar gyfer eu dosbarth i’w trafod yn ystod diwrnod 2 a 3.