Back to All Events

Hyfforddiant Darllen - Beth Nesaf? Mewn Byd o Eiriau! Abertawe

Mae darllen a llythrennedd bellach yn ganolog i flaenoriaethau cenedlaethol Llywodraeth Cymru.

Ym mis Medi 2026, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Gynllun Llythrennedd a Rhifedd Sylfaenol, gyda ffocws clir ar godi safonau llythrennedd a sicrhau dulliau cyson, wedi’u llywio gan dystiolaeth, o ddatblygu sgiliau darllen.

Mae’r egwyddorion cenedlaethol diweddaraf ar gyfer addysgu iaith a llythrennedd hefyd yn pwysleisio bod angen i ysgolion ddatblygu ymwybyddiaeth ffonolegol ac addysgu ffoneg mewn ffordd systematig, strwythuredig a phenodol, er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i ddarllen yn llwyddiannus.

Yn y cyd-destun hwn, mae’n bleser gan CYDAG gynnig eto ein cyfres genedlaethol o hyfforddiant darllen:

Diwrnod 1 – Tric a Chlic

Hyfforddiant swyddogol ar gyfer defnyddio rhaglen ffoneg synthetig Gymraeg Tric a Chlic.

Mae’r diwrnod wedi’i anelu at athrawon, cynorthwywyr addysgu, cydlynwyr iaith ac arweinwyr sydd am ddatblygu eu dealltwriaeth o sut i weithredu Tric a Chlic yn systematig ac yn effeithiol wrth addysgu sgiliau darllen cynnar.

Bydd y diwrnod yn rhoi arweiniad ymarferol ar ddefnyddio’r rhaglen, trefnu’r addysgu a chefnogi cynnydd dysgwyr wrth iddynt ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i ddadgodio a darllen yn fwy annibynnol.

Diwrnod 2 – Beth Nesaf? Mewn Byd o Eiriau!

Wedi i blant ddatblygu’r sgiliau darllen cynnar drwy Tric a Chlic – beth nesaf?

Mae’r ail ddiwrnod yn symud y dysgu ymlaen, gyda syniadau ymarferol ar sut i ddatblygu plant o fod yn gallu dadgodio geiriau i fod yn ddarllenwyr mwy rhugl, hyderus ac annibynnol sy’n deall yr hyn maent yn ei ddarllen.

Bydd y diwrnod yn cyflwyno ystod o weithgareddau, strategaethau ac adnoddau ymarferol i gefnogi datblygiad darllen ar draws y sector cynradd.

Mae’r hyfforddiant yn addas ar gyfer athrawon, cynorthwywyr addysgu, cydlynwyr iaith ac unrhyw ymarferydd sy’n gyfrifol am ddatblygu darllen.

Gellir mynychu un diwrnod yn unig neu’r ddau ddiwrnod.

Dyddiadau 2026/27

19–20 Tachwedd 2026 – Caerdydd

14–15 Ionawr 2027 – Llandudno

21–22 Ionawr 2027 – Caerfyrddin

18–19 Chwefror 2027 – Abertawe

11–12 Mawrth 2027 – Caernarfon

8–9 Ebrill 2027 – Llandrindod

29–30 Ebrill 2027 – Aberystwyth

13–14 Mai 2027 – Llandudno

10–11 Mehefin 2027 – Wrecsam

1–2 Gorffennaf 2027 – Ynys Môn

Cost

£100 y diwrnod (£80 i aelodau CYDAG)

Gan mai dim ond 25 lle sydd ar gael ym mhob lleoliad, rydym yn argymell cofrestru’n gynnar.

COFRESTRWCH NAWR

Ffurflen Gofrestru Hyfforddiant Darllen  – Llenwi'r ffurflen


Previous
Previous
18 February

Hyfforddiant Darllen - Tric a Chlic, Abertawe

Next
Next
11 March

Hyfforddiant Darllen - Tric a Chlic, Caernarfon