CYNHADLEDD FLYNYDDOL GENEDLAETHOL CYDAG CYNRADD 2025 - Y DIWEDDARAF O'R BYD ADDYSG GYNRADD
Mae'n bleser gennym wahodd penaethiaid ac uwch arweinwyr i Gynhadledd Flynyddol Genedlaethol CYDAG Cynradd 2025, a gynhelir ar y 10fed o Hydref yng Ngwesty'r Marine, Aberystwyth.
Bydd y diwrnod yn cynnwys cyflwyniadau gan sawl ffigwr blaenllaw o'r byd addysg i'ch diweddaru ynghylch datblygiadau cenedlaethol yn y sector addysg gynradd. Hefyd, bydd cyflwyniadau gan nifer o arbenigwyr ar themâu allweddol a blaenoriaethau cenedlaethol, megis safonau darllen a throchi ieithyddol. Mae rhai o'r siaradwyr gwadd wedi eu cadarnhau yn cynnwys:-
Alun Jones - Pennaeth Tîm Gwella Addysg Llywodraeth Cymru
Richard Thomas AEM - Estyn
Meurig Jones - Dirprwy Gyfarwyddwr y Corff Dysgu Proffesiynol Cenedlaethol 'Dysgu'
Emyr George - Prif Weithredwr Adnodd
Trystan Williams - Cydlynydd Cenedlaethol ADY
Kayleigh Bickford - Mudiad Meithrin
Nia Evans - Darlithydd yng Ngholeg y Drindod ac Hyfforddwraig Tric a Chlic
Cost ar gyfer mynediad i'r gynhadledd yw £150 neu £120 i aelodau.
Noson Gymdeithasol
Yn ôl yr arfer, ar noswyl y gynhadledd, ar y 9fed o Hydref, byddwn yn cynnal noson gymdeithasol gyda swper a set acwstig gan Al Lewis.
Cost y noson gymdeithasol yw £200/£170 i aelodau (yn ychwanegol i gost mynediad y gynhadledd), gyda'r pris yn cynnwys mynediad i'r noson gymdeithasol, swper tri chwrs, llety a brecwast yng Ngwesty'r Marine.