Back to All Events

Ein Llais Ni - Diwrnod 3 - Llandudno

Mae'n bleser gan CYDAG gyflwyno rhaglen 3 diwrnod 'Ein Llais Ni' a fydd yn cael ei gynnal yn Llandudno, Aberystwyth a Chaerdydd.  Gwelir dyddiadau'r tri diwrnod isod:-

Llandudno - 14.10.25, 25.11.25, 4.2.26

Aberystwyth - 28.1.26, 12.3.26, 28.4.26

Caerdydd - 19.11.25, 21.1.26, 16.4.26

RHAGLEN 'EIN LLAIS NI YN Y DOSBARTH'

🟣 Ydych chi eisiau datblygu'ch dosbarth yn un sy'n tanio chwilfrydedd drwy drafodaethau ystyrlon, hybu meddwl beirniadol a dealltwriaeth ddofn?

🟣 Ydych chi'n teimlo bod angen meithrin hyder eich dysgwyr i siarad a chyfathrebu drwy'r Gymraeg?

🟣 Ydych chi'n chwilio am syniadau ymarferol i droi eich dosbarth yn gymuned sy’n siarad, gwrando ac yn dysgu gyda’i gilydd drwy gyd-destunau pwrpasol ar draws y cwricwlwm?

Mae Ein Llais Ni yn ddarpariaeth Dysgu Proffesiynol a chefnogaeth i arfogi athrawon ac arweinwyr ar draws y sector cynradd ac uwchradd. Mae wedi cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru  a'i ddylunio gan arbenigwyr mewn partneriaeth gyda Phrifysgol Cymru Bangor. Ers dyddiau cynnar y prosiect yn 2021-22, mae bellach wedi datblygu'n raglen gynhwysfawr gyda gwefan sy'n benodol i ddatblygu llafaredd ar draws y cwricwlwm.

Mae'n rhoi lle blaenllaw i lafaredd Cymraeg er mwyn cefnogi ‘dysgu’ ar draws y cwricwlwm.  Wrth i bob athro roi sylw bwriadus i lafaredd fe fydd yn galluogi cynnydd mewn hyder a lles dysgwyr, eu caniatáu i adeiladu perthynas â’u cyfoedion, a’u cefnogi i ddyfnhau eu dealltwriaeth ar draws y meysydd dysgu.

Cost am y 3 diwrnod yw £200 y person, neu £160 i aelodau.  Bydd lluniaeth a chinio'n cael ei ddarparu ar y 3 diwrnod.  Cofrestrwch drwy ddilyn y linc isod.

https://forms.office.com/e/vaJjJE2smd

TROSOLWG

Bydd y rhaglen yn addas ar gyfer pob athro, cynradd ac uwchradd ac yn canolbwyntio ar ddatblygu llafaredd Cymraeg ar draws y cwricwlwm

Dyma’r math o gynnwys sydd i’r rhaglen:


Diwrnod 1:

  • Deall pwysigrwydd llafaredd a sgiliau cyfathrebu a’u cyfraniad allweddol tuag at gyflawni’r pedwar diben

  • Cyfle i ddefnyddio adnodd ymarferol Ein Llais Ni i fyfyrio ar ansawdd darpariaeth a safonau llafaredd Cymraeg ar draws y cwrciwlwm

  • Defnyddio’r ‘4 Cam Athro’ a ‘Llafaredd Llwyddiannus’ i gefnogi addysgeg da a chynllunio profiadau siarad a gwrando Cymraeg cyfoethog

  • Cyflwyniad i’r strategaethau ac ymgyfarwyddo gyda’r wefan

Diwrnod 2:

  • Datblygu technegau trafod effeithiol mewn grŵp i godi hyder pob dysgwr wrth siarad a gwrando’n gydweithredol a datblygu rolau trafod

  • Cynllunio ar gyfer defnyddio dulliau digidol i ysgogi, cofnodi a chyflwyno tasgau llafar - asesu cynnydd

  • Dulliau ac adnoddau ar gyfer cynllunio a deall cynnydd mewn sgiliau siarad a gwrando

Diwrnod 3:

  • Strategaethau defnyddiol i ddatblygu geirfa er mwyn gwella sgiliau llythrennedd a dealltwriaeth ar draws y Meysydd Dysgu a Phrofiad

  • Cwestiynu effeithiol - datblygu sgiliau cwestiynu’r dysgwyr i annog chwilfrydedd, dyfnhau dealltwriaeth a chyfoethogi trafodaethau

  • Dod a pawb efo chi!! Adnoddau a chanllawiau ar gyfer hunanwerthuso ac arwain gwelliant drwy’r ysgol

 

Fe fydd disgwyl i bawb sy'n mynychu ddefnyddio gwybodaeth o’r diwrnod i gynllunio a threialu cyfleoedd ymarferol ar gyfer eu dosbarth i’w trafod yn ystod diwrnod 2 a 3.

Mae'r rhaglen hon yn ran o raglen ehangach o gyrsiau hyfforddiant a ddarperir gan dim Ein Llais Ni. Mae rhai cyrsiau yn cael eu darparu yn uniongyrchol i ysgolion drwy eu hawdurdodau lleol unigol. Gellir canfod gwybodaeth bellach am y ddarpariaeth honno drwy eich swyddogion ALl.

Previous
Previous
3 February

Hyfforddiant Defnydd Effeithiol o AI - Caerfyrddin

Next
Next
24 February

Hyfforddiant Rhifedd Mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg - Llandudno