Back to All Events

Hyfforddiant Cynllunio Eich Cwricwlwm Dyniaethau - Caerfyrddin

Dylunio Eich Cwricwlwm Dyniaethau Cynradd

Amlinelliad y cwrs:-

Bydd y cwrs undydd hwn yn rhoi cyfle i arweinwyr ac athrawon dyniaethau feithrin hyder yn eu dealltwriaeth o ofynion Cwricwlwm i Gymru, myfyrio ar eu darpariaeth bresennol, a chynllunio i ddatblygu ymhellach eu cynnig a’u dull gweithredu.

Bydd y diwrnod yn dechrau gyda ffocws ar ofynion y cwricwlwm (gan gynnwys y canllawiau statudol Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM), a’r maes llafur a gytunwyd yn lleol, ac yn darparu lle i ysgolion fyfyrio ar eu dulliau o strwythuro eu darpariaeth dyniaethau a’u proses ddylunio. Yna byddwn yn trafod cynnydd mewn gwybodaeth a sgiliau, ac yn ystyried dulliau o sicrhau bod dysgwyr yn gwneud cynnydd o fewn y dyniaethau. Yn olaf, byddwn yn trafod sut y gallwn ddewis y pynciau a’r themâu cywir ar gyfer dysgwyr. Drwy gydol y dydd, bydd cynrychiolwyr yn cael mynediad at gyngor arbenigol ac yn gallu rhannu syniadau gyda chydweithwyr. Darperir deunyddiau ac adnoddau i bob cynrychiolydd.

Bywgraffiad y cyflwynydd

Roedd Nicky Hagendyk yn gadeirydd Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau yn ystod y broses o ddylunio’r cwricwlwm, gyda chyfrifoldeb am arwain y grŵp o athrawon arloesol wrth ddylunio’r cwricwlwm dyniaethau. Roedd Nicky hefyd yn rhan o’r tîm a ysgrifennodd y canllawiau statudol CGM.

Mae Nicky yn rhedeg ei hymgynghoriaeth ei hun sy’n darparu hyfforddiant ar ddylunio cwricwlwm ysgol gyfan, dyniaethau, amrywiaeth a gwrth-hiliaeth, yn ogystal â chynnal ymchwil, cynhyrchu adnoddau a hyfforddiant arweinyddiaeth. Mae ganddi 8 mlynedd o brofiad fel cynghorydd ysgol, yn arwain dysgu proffesiynol rhanbarthol ac yn gweithio gyda channoedd o ysgolion yn Ne Cymru.

Previous
Previous
15 April

Cyfarfod Penaethiaid CYDAG y De

Next
Next
16 April

Ein Llais Ni - Diwrnod 3 - Caerdydd