Back to All Events

Hyfforddiant Cynnydd Mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg - Caerfyrddin

  • College Road Carmarthen, Wales, SA31 United Kingdom (map)

Yn dilyn sawl cais gan nifer o ysgolion, pleser yw cynnig hyfforddiant 'Cynnydd Mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg' gan Karen Mills a Nerys Tudor Jones.  Rydym yn cynnal yr hyfforddiant mewn tri safle ar draws Cymru gan obeithio bydd un ohonynt yn gyfleus i chi:-

15.10.25 - Caerfyrddin

22.10.25 - Llandudno

6.11.25 - Caerdydd

Cost yr hyfforddiant yw £150 y person, neu, £130 y person i ysgolion sydd yn aelodau o CYDAG.    Gallwch gofrestru drwy ddilyn y linc isod:-

https://forms.office.com/e/wyc18tuvc9

Gwelir mwy o wybodaeth am yr hyfforddiant isod:-

Cynnydd mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg – Karen Mills a Nerys Tudor Jones

‘Mae lleiafrif o ysgolion yn darparu cyfleoedd addas i ddisgyblion gymhwyso eu sgiliau llythrennedd, rhifedd a digidol yn annibynnol mewn cyd-destunau ystyrlon. Yn rhy aml, nid yw ysgolion wedi datblygu eu dealltwriaeth o ddatblygiad yn ddigonol ac nid yw disgyblion yn cymhwyso eu sgiliau ar lefel ddigon uchel.’

 Mewnwelediadau Cynnar Estyn 2025

“Mae cwricwlwm llwyddiannus, a gefnogir gan addysgu ac athrawon effeithiol, yn galluogi dysgwyr i wneud cynnydd ystyrlon.”
Y Cwricwlwm i Gymru: Cod Cynnydd paragraff 2.1

Mae’r cwrs hwn yn ystyried datblygiad sgiliau Gwyddoniaeth a Thechnoleg, gan dynnu sylw at y cyfleoedd cyfoethog i ddatblygu sgiliau llythrennedd, rhifedd a digidol.

Cewch gyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau STEM a Thechnoleg Dylunio ymarferol, sy’n meithrin priodoleddau personol a sgiliau trawsgwricwlaidd datblygiadol.

Mae’r cwrs hwn yn cynnwys copïau o’r Camau Pontio Gwyddoniaeth a Thechnoleg – Cynllun Datblygiad Tymor HirLlyfryn Syniadau ar gyfer Gwyddoniaeth a Thechnoleg Cam Cynnydd 1, a Banc o Ymchwiliadau Gwyddoniaeth ar gyfer Blwyddyn 1 i 6 – ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Previous
Previous
14 October

Ein Llais Ni - Diwrnod 1 - Llandudno

Next
Next
21 October

Hyfforddiant Cynnydd Mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg - Llandudno