Yn dilyn sawl cais gan nifer o ysgolion, pleser yw cynnig hyfforddiant 'Cynnydd Mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg' gan Karen Mills a Nerys Tudor Jones. Rydym yn cynnal yr hyfforddiant mewn tri safle ar draws Cymru gan obeithio bydd un ohonynt yn gyfleus i chi:-
15.10.25 - Caerfyrddin
22.10.25 - Llandudno
6.11.25 - Caerdydd
Cost yr hyfforddiant yw £150 y person, neu, £130 y person i ysgolion sydd yn aelodau o CYDAG. Gallwch gofrestru drwy ddilyn y linc isod:-
https://forms.office.com/e/wyc18tuvc9
Gwelir mwy o wybodaeth am yr hyfforddiant isod:-
Cynnydd mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg – Karen Mills a Nerys Tudor Jones
‘Mae lleiafrif o ysgolion yn darparu cyfleoedd addas i ddisgyblion gymhwyso eu sgiliau llythrennedd, rhifedd a digidol yn annibynnol mewn cyd-destunau ystyrlon. Yn rhy aml, nid yw ysgolion wedi datblygu eu dealltwriaeth o ddatblygiad yn ddigonol ac nid yw disgyblion yn cymhwyso eu sgiliau ar lefel ddigon uchel.’
Mewnwelediadau Cynnar Estyn 2025
“Mae cwricwlwm llwyddiannus, a gefnogir gan addysgu ac athrawon effeithiol, yn galluogi dysgwyr i wneud cynnydd ystyrlon.”
Y Cwricwlwm i Gymru: Cod Cynnydd paragraff 2.1
Mae’r cwrs hwn yn ystyried datblygiad sgiliau Gwyddoniaeth a Thechnoleg, gan dynnu sylw at y cyfleoedd cyfoethog i ddatblygu sgiliau llythrennedd, rhifedd a digidol.
Cewch gyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau STEM a Thechnoleg Dylunio ymarferol, sy’n meithrin priodoleddau personol a sgiliau trawsgwricwlaidd datblygiadol.
Mae’r cwrs hwn yn cynnwys copïau o’r Camau Pontio Gwyddoniaeth a Thechnoleg – Cynllun Datblygiad Tymor Hir, Llyfryn Syniadau ar gyfer Gwyddoniaeth a Thechnoleg Cam Cynnydd 1, a Banc o Ymchwiliadau Gwyddoniaeth ar gyfer Blwyddyn 1 i 6 – ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.