HYFFORDDIANT TALK4WRITING/PIE CORBETT GYDA ADNODDAU SWYDDOGOL CYMRAEG
Mae CYDAG yn falch o gyhoeddi ein bod wedi llwyddo i gael caniatâd i gyfieithu adnoddau swyddogol 'Talk4Writing'. I ddathlu'r llwyddiant hwn rydym yn trefnu cyfres o ddiwrnodau hyfforddiant o'r safon uchaf gyda hyfforddwr swyddogol 'Talk 4 Writing'/'Pie Corbett'. Bydd pawb sydd yn mynychu'n derbyn yr adnoddau Cymraeg AM DDIM! Mae'r hyfforddiant yn addas ar gyfer uwch arweinwyr neu unrhyw berson sydd yn arwain llythrennedd o fewn eich ysgol.
Trefnir yr hyfforddiant hwn oherwydd fod nifer o ysgolion wedi codi pryderon am ddirywiad yn sgiliau llafaredd, darllen ac ysgrifennu disgyblion. Mae dull Pie Corbett/Talk 4 Writing wedi cael ei brofi i fod yn ddull hynod effeithiol i godi safonau llythrennedd disgyblion o bob oedran. Bydd yr hyfforddiant yn amlinellu sut i arwain, gweithredu a gwreiddio dull Pie Corbett/Talk 4 Writing o fewn ysgol gyfan.
Cynhelir yr hyfforddiant yn y lleoliadau a'r dyddiadau isod:-
Llandudno - 12.11.25
Caerdydd - 27.11.25
Caerfyrddin - 4.12.25