Back to All Events

Hyfforddiant Pie Corbett / Talk 4 Writing - Caerdydd

  • Hemingway Road Cardiff, Wales, CF10 4AU United Kingdom (map)
Cofrestrwch - £150 / £120 i aelodau

HYFFORDDIANT TALK4WRITING/PIE CORBETT GYDA ADNODDAU SWYDDOGOL CYMRAEG

Mae CYDAG yn falch o gyhoeddi ein bod wedi llwyddo i gael caniatâd i gyfieithu adnoddau swyddogol 'Talk4Writing'.  I ddathlu'r llwyddiant hwn rydym yn trefnu cyfres o ddiwrnodau hyfforddiant o'r safon uchaf gyda hyfforddwr swyddogol 'Talk 4 Writing'/'Pie Corbett'.  Bydd pawb sydd yn mynychu'n derbyn yr adnoddau Cymraeg AM DDIM! Mae'r hyfforddiant yn addas ar gyfer uwch arweinwyr neu unrhyw berson sydd yn arwain llythrennedd o fewn eich ysgol. 

Trefnir yr hyfforddiant hwn oherwydd fod nifer o ysgolion wedi codi pryderon am ddirywiad yn sgiliau llafaredd, darllen ac ysgrifennu disgyblion.  Mae dull Pie Corbett/Talk 4 Writing wedi cael ei brofi i fod yn ddull hynod effeithiol i godi safonau llythrennedd disgyblion o bob oedran.  Bydd yr hyfforddiant yn amlinellu sut i arwain, gweithredu a gwreiddio dull Pie Corbett/Talk 4 Writing o fewn ysgol gyfan.

Cynhelir yr hyfforddiant yn y lleoliadau a'r dyddiadau isod:-

Llandudno - 12.11.25

Caerdydd - 27.11.25

Caerfyrddin - 4.12.25

Previous
Previous
26 November

Hyfforddiant Tric a Chlic Diwrnod 2 - Caernarfon

Next
Next
4 December

Hyfforddiant Pie Corbett / Talk 4 Writing - Caerfyrddin