Back to All Events

Hyfforddiant Makaton

  • Vaughan Street Llandudno, Wales, LL30 1AP United Kingdom (map)

Pleser yw cyflwyno hyfforddiant Makaton drwy gyfrwng y Gymraeg gyda Sian Williams (gynt o 'Arwyddo Can').  Bydd mynychwyr yn ennill achrediad swyddogol Makaton Lefel 1 ac yn derbyn adnoddau cyfrwng Cymraeg.  Mae'r defnydd o fakaton mewn ysgolion wedi cael ei brofi i gynorthwyo datblygiad sgiliau llafaredd, yn enwedig yn y blynyddoedd cynnar gyda phlant sydd yn dod o gartrefi di-Gymraeg.  Rydym yn cynnig yr hyfforddiant hwn ar y dyddiadau a'r lleoliadau isod:-

12.12.25 - Caerfyrddin

21.11.25 - Llandudno

Dim ond lle ar gyfer 16 person ar bob dyddiad.  Cost yr hyfforddiant yw £250 y person / £220 i aelodau.  Mae'r pris yn uwch na'r arfer oherwydd ei fod yn achrediad swyddogol.  Cofrestrwch drwy ddilyn y linc isod:-

https://forms.office.com/e/CxmFEqUxrf

Lefel 1 Makaton – Cwrs Hyfforddiant

Dewch i ddysgu'r cam cyntaf o raglen Makaton.  Mae’r cwrs Lefel 1 yn gyflwyniad swyddogol sy’n addas i unrhyw un sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc neu oedolion ag anghenion cyfathrebu ychwanegol – gan gynnwys ysgolion cyfrwng Cymraeg prif ffrwd.

Byddwch yn dysgu:

  • Beth yw Makaton a sut i’w ddefnyddio

  • Arwyddion a symbolau Cam 1 Makaton

  • Sut i gefnogi cyfathrebu a datblygiad iaith

  • Sut i ddefnyddio Makaton yn ymarferol a hwyliog o ddydd i ddydd

  • Sut gall Makaton bontio’r Gymraeg a’r Saesneg mewn lleoliadau dwyieithog

Yn cynnwys llyfryn, tystysgrif ac yn eich galluogi i symud ymlaen i Lefel 2

Previous
Previous
19 November

Ein Llais Ni - Diwrnod 1 - Caerdydd

Next
Next
25 November

Ein Llais Ni - Diwrnod 2 - Llandudno