Pleser yw cyflwyno hyfforddiant Makaton drwy gyfrwng y Gymraeg gyda Sian Williams (gynt o 'Arwyddo Can'). Bydd mynychwyr yn ennill achrediad swyddogol Makaton Lefel 1 ac yn derbyn adnoddau cyfrwng Cymraeg. Mae'r defnydd o fakaton mewn ysgolion wedi cael ei brofi i gynorthwyo datblygiad sgiliau llafaredd, yn enwedig yn y blynyddoedd cynnar gyda phlant sydd yn dod o gartrefi di-Gymraeg. Rydym yn cynnig yr hyfforddiant hwn ar y dyddiadau a'r lleoliadau isod:-
12.12.25 - Caerfyrddin
21.11.25 - Llandudno
Dim ond lle ar gyfer 16 person ar bob dyddiad. Cost yr hyfforddiant yw £250 y person / £220 i aelodau. Mae'r pris yn uwch na'r arfer oherwydd ei fod yn achrediad swyddogol. Cofrestrwch drwy ddilyn y linc isod:-
https://forms.office.com/e/CxmFEqUxrf
Lefel 1 Makaton – Cwrs Hyfforddiant
Dewch i ddysgu'r cam cyntaf o raglen Makaton. Mae’r cwrs Lefel 1 yn gyflwyniad swyddogol sy’n addas i unrhyw un sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc neu oedolion ag anghenion cyfathrebu ychwanegol – gan gynnwys ysgolion cyfrwng Cymraeg prif ffrwd.
Byddwch yn dysgu:
Beth yw Makaton a sut i’w ddefnyddio
Arwyddion a symbolau Cam 1 Makaton
Sut i gefnogi cyfathrebu a datblygiad iaith
Sut i ddefnyddio Makaton yn ymarferol a hwyliog o ddydd i ddydd
Sut gall Makaton bontio’r Gymraeg a’r Saesneg mewn lleoliadau dwyieithog