Rhifedd mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg – Karen Mills a Nerys Tudor Jones
Ydych chi'n chwilio am ddatblygu gallu disgyblion i gymhwyso sgiliau rhifedd ar draws y cwricwlwm? Mae Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn gyfoethog o ran cymhwyso Rhifedd ac mae’r cwrs hwn yn llawn syniadau ac awgrymiadau.
Derbyniodd 83 (32%) o ysgolion cynradd argymhelliad yn ymwneud â darparu neu wella cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu neu gymhwyso eu sgiliau, yn enwedig rhifedd, ysgrifennu, darllen neu sgiliau digidol. Adroddiad Blynyddol Estyn 2025.
Bydd y cwrs hwn yn ystyried y cyfleoedd i addysgu, ymarfer a chadarnhau rhifedd fel sgil allweddol o’r Meithrin i Flwyddyn 6:
Bydd gweithgareddau ymarferol dosbarth yn cael eu rhannu i ddangos dilyniant priodol o ran sgiliau allweddol a sgiliau gwyddoniaeth a thechnoleg.