Back to All Events

Hyfforddiant Tric a Chlic Diwrnod 1 - Caernarfon

  • Caernarfon, Wales, LL55 1UE United Kingdom (map)

WEDI GWERTHU ALLAN!

Ar 31 Ionawr 2025, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddiweddariadau i ganllawiau fframwaith Cwricwlwm i Gymru, gan egluro rhannau o’r canllawiau Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu. Mae’r diweddariad yn pwysleisio bod “rhaid i addysgu ffoneg, yn systematig ac yn gyson, fod yn rhan allweddol o ddull ysgolion o ddysgu darllen.

Diwrnod 1 yw hyfforddiant swyddogol rhaglen Tric a Chlic.  Mae gwaith ymchwil wedi dangos nad oes unrhyw amheuaeth mai rhaglen ffoneg yw'r dull fwyaf effeithiol i ddisgyblion ddysgu sgiliau darllen cynnar.  Mae rhaglen ffoneg Tric a Chlic yn cael ei chysidro ymysg y gorau drwy gyfrwng y Gymraeg a bydd yr hyfforddiant yn amlinellu sut i'w weithredu'n effeithiol.  Mae Diwrnod 2 yn hyfforddiant sydd yn canolbwyntio ar beth ddylai ysgolion wneud ar ôl i ddisgyblion gwblhau'r rhaglen ffoneg - Tric a Chlic, beth nesaf?  Gwelir mwy o wybodaeth yn y briff isod.

Hyfforddiant ar gyfer athrawon, cynorthwywyr dosbarth neu gydlynwyr iaith sydd am ddysgu sut i ddefnyddio’r rhaglen ddarllen ffoneg synthetig  “Tric a Chlic” wrth addysgu sgiliau darllen cynnar yn eu hysgol.

Previous
Previous
25 November

Ein Llais Ni - Diwrnod 2 - Llandudno

Next
Next
26 November

Hyfforddiant Tric a Chlic Diwrnod 2 - Caernarfon