10.6.25 - CYDAG yn Cyfarfod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - Lynne Neagle
Pleser oedd cael cwrdd â’r Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle yng Nghaerdydd heddiw. Cawsom gyfle i rannu’r holl waith da mae CYDAG yn ei wneud i gefnogi ysgolion Cymraeg ynghyd a rhannu rhai o bryderon penaethiaid cynradd ac uwchradd. Roedd yn gyfarfod cadarnhaol iawn, gyda’r Gweinidog yn gweld budd cael corff oedd yn cael ei arwain gan ysgolion ar gyfer ysgolion. Y bwriad yw cyfarfod eto yn y dyfodol i’w diweddaru ymhellach o’r gwaith sydd yn cael ei gyflawni. Diolch i Mr Geoff Evans, Pennaeth Ysgol y Strade am drefnu a chefnogi.