25.4.24 - Rhwydwaith Tracio ac Asesu Cynnydd CYDAG

Ar ddydd Iau, 25ain o Ebrill, daeth 42 o benaethiaid ysgolion cynradd ledled Cymru ynghyd i rannu eu gweithdrefnau asesu a thracio cynnydd.  Prif nod y diwrnod oedd rhoi’r cyfle i ysgolion weld trefniadau tracio ac asesu cynnydd ysgolion tu hwnt i’w hardal arferol.  Roedd pawb a fynychodd wedi paratoi cyflwyniad i gyflwyno yn eu grwpiau o 6.  Yn ogystal â hynny, cafwyd cyflwyniad gan Mr Gethin Richards, Ysgol y Bedol, Caerfyrddin a Mr Gwyn Pleming, Ysgol Llanfairpwll, Ynys Môn.  Bu’r diwrnod yn lwyddiant ysgubol ac derbyniwyd adborth cadarnhaol iawn gan y mynychwyr:-

“Braf cael clywed am arferion da sy’n digwydd at draws Cymru. Edrych mlaen i ddatblygu sawl peth er mwyn symud yr ysgol mlaen.”

“Braf clywed gwahanol syniadau o wahanol ysgolion - wedi rhoi cadarnhad o ambell beth roeddwn yn ansicr amdano, ond hefyd wedi ysbrydoli llu o syniadau newydd.”

Previous
Previous

15.5.24 - Hyfforddiant Dr Coral Harper