12.3.25 - Hyfforddiant ‘Sut i adael y llyfrau yn yr ysgol?’ gyda Gareth Coombes
Pleser oedd cynnal yr hyfforddiant hynod effeithiol hwn yn Llandudno ac yng Nghaerfyrddin er mwyn cyflwyno syniadau ar sut i roi adborth effeithiol ar lawr y dosbarth, heb orfod mynd a phentwr o lyfrau adref i’w marcio! Roedd y diwrnod llawn cynnwys ac roedd adborth gan y mynychwyr yn gadarnhaol iawn. Hoffem ddiolch i Gareth am roi’r hyfforddiant a chynnig adnoddau Cymraeg i’r mynychwyr.
“Llawer o syniadau i fynd nôl i’r ysgol er mwyn ail edrych ar polisi adborth ac asesu a sut mae athrawon yn asesu ar gyfer pwrpas”
“Cyfle i edrych ar ddulliau gwahanol gellir ei ddefnyddio ar lawr y dosbarth i ddatblygu dysgwyr annibynnol wrth asesu gwaith eu hunain/cyfoedion a sicrhau dealltwriaeth o gynnydd dysgwyr.”