3.4.25 - Hyfforddiant ‘Pontio Effeithiol’ gyda Dave Harris

Cawsom ddiwrnod ysbrydoledig yng nghwmni Dave Harris yn Abertawe. Mae Dave yn gyn-bennaeth ysgol uwchradd sydd wedi cael ei gydnabod yn rhyngwladol am y gwaith wnaeth i bontio o’r cynradd i’r uwchradd. Pwysleisiodd mai anwythiad yw un ymweliad i’r uwchradd yn yr haf a bod pontio effeithiol, yn cynnwys ymwneud a’r uwchradd o’r blynyddoedd cynnar ymlaen. Dangosodd enghreifftiau o ddisgyblion uwchradd yn gwneud gweithgareddau gyda’r meithrin/derbyn, ynghyd a gwahanol brosiectau ar y cyd rhwng y cynradd a’r uwchradd. Roedd yr ysgolion cynradd ac uwchradd oedd wedi mynychu wir wedi eu hysbrydoli - gwelir rhai dyfyniadau o’r adborth isod:-

“O safbwynt Cydlynydd Cwricwlwm roedd y cyflwyniad yn procio’r meddwl i werthuso’r gweithdrefnau presennol ond hefyd yn rhoi syniadau ymarferol ar sut i wella a datblygu hwn ymhellach.”

“Bydd angen edrych ar yr ieithwedd rydym yn defnyddio ac effeithiolrwydd ein cynlluniau pontio. Byddaf hefyd yn rhannu’r wybodaeth gyda Phenaethiaid y Clwstwr.”

Previous
Previous

12.5.25 - Rhaglen Hyfforddiant ‘Sut i gynllunio ac addysgu’r Cwricwlwm Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb?’ gyda Judith Roberts

Next
Next

12.3.25 - Hyfforddiant ‘Sut i adael y llyfrau yn yr ysgol?’ gyda Gareth Coombes