12.5.25 - Rhaglen Hyfforddiant ‘Sut i gynllunio ac addysgu’r Cwricwlwm Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb?’ gyda Judith Roberts
Roedd yr hyfforddiant hwn yn rhaglen wedi ei rannu’n dair rhan dros gyfnod o dri diwrnod. Yn dilyn dau ddiwrnod ar-lein, dyma’r diwrnod olaf o’r rhaglen a oedd yn cael ei gynnal wyneb yn wyneb yn Aberystwyth. Bwriad y rhaglen oedd cynorthwyo ysgolion cynradd ar sut i gynllunio ac addysgu’r cwricwlwm ACRh. Roedd gan Judith lith o adnoddau a chynlluniau i’r ysgolion ac roedd yn barod i ateb unrhyw gwestiwn fyddai’n pryderu ysgolion oherwydd sylw mae wedi ei gael yn y wasg yn y gorffennol.
“Cyfle i drafod wyneb yn wyneb a rhannu gwybodaeth a syniadau. Adnoddau am ddim yn y Gymraeg - grêt! Hefyd, gwybod ble i edrych am fwy.”