19 a 20.6.25 - Hyfforddiant ‘Tric a Chlic’ a ‘Beth nesaf? Mewn Byd o Eiriau’

Ar 31 Ionawr 2025, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddiweddariadau i ganllawiau fframwaith Cwricwlwm i Gymru, gan egluro rhannau o’r canllawiau Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu. Mae’r diweddariad yn pwysleisio bod “rhaid i addysgu ffoneg, yn systematig ac yn gyson, fod yn rhan allweddol o ddull ysgolion o ddysgu darllen.

Yn sgil hyn, roedd hi'n bleser cyflwyno dau ddiwrnod o hyfforddiant yng Nghonwy sydd yn ffocysu ar ddatblygu darllen.

Diwrnod 1 oedd hyfforddiant swyddogol rhaglen Tric a Chlic.  Mae gwaith ymchwil wedi dangos nad oes unrhyw amheuaeth mai rhaglen ffoneg yw'r dull fwyaf effeithiol i ddisgyblion ddysgu sgiliau darllen cynnar.  Mae rhaglen ffoneg Tric a Chlic yn cael ei chysidro ymysg y gorau drwy gyfrwng y Gymraeg ac roedd yr hyfforddiant yn amlinellu sut i'w weithredu'n effeithiol.  

Roedd Diwrnod 2 yn hyfforddiant sydd yn canolbwyntio ar beth ddylai ysgolion wneud ar ôl i ddisgyblion gwblhau'r rhaglen ffoneg - Tric a Chlic, beth nesaf?  Roedd y diwrnod llawn syniadau ymarferol ar sut i barhau i ddatblygu medrau darllen dysgwyr mewn byd sy'n llawn o eiriau.

Previous
Previous

24.6.25 - Hyfforddiant ‘Cynllunio yn y Foment’ gyda Anna Ephgrave

Next
Next

11.6.25 - Hyfforddiant ‘Cynnydd yn y Celfyddydau Mynegiannol’ gyda Huw Duggan