24.6.25 - Hyfforddiant ‘Cynllunio yn y Foment’ gyda Anna Ephgrave
Mae Anna Ephgrave yn addysgwr, ymgynghorydd ac awdur blaenllaw sydd wedi annerch cynulleidfaoedd ar draws y byd. Pleser oedd ei chroesawu i Aberystwyth ar gyfer diwrnod hyfforddiant ysbrydoledig ac ymarferol oedd wedi’i gynllunio i drawsnewid arferion blynyddoedd cynnar. Roedd arbenigedd Anna mewn dysgu drwy chwarae, meithrin annibyniaeth, ac arsylwi effeithiol wedi rhoi hwb i nifer o’r mynychwyr i sbarduno newid yn eu hysgolion. Gydag Estyn a Llywodraeth Cymru’n annog ysgolion i ddefnyddio’r ‘Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas gynhelir’ roedd yr hyfforddiant hwn yn amserol iawn!