Hyfforddiant Makaton
Heddiw, yn Llandudno, cynhaliwyd hyfforddiant Makaton Lefel 1. Mae’r cwrs Lefel 1 yn gyflwyniad swyddogol sy’n addas i unrhyw un sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc neu oedolion ag anghenion cyfathrebu ychwanegol – gan gynnwys ysgolion cyfrwng Cymraeg prif ffrwd.
Yn ystod y dydd, cafodd y mynychwyr gyflwyniad i:
Beth yw Makaton a sut i’w ddefnyddio
Arwyddion a symbolau Cam 1 Makaton
Sut i gefnogi cyfathrebu a datblygiad iaith
Sut i ddefnyddio Makaton yn ymarferol a hwyliog o ddydd i ddydd
Sut gall Makaton bontio’r Gymraeg a’r Saesneg mewn lleoliadau dwyieithog
Cafodd bawb lyfryn, tystysgrif a’r parodrwydd i symud ymlaen i Lefel 2.