Rhaglen Hyfforddiant ‘Ein Llais Ni’

I’r rhai ohonoch sydd ddim yn ymwybodol o raglen ‘Ein Llais Ni’ yn barod, mae hi’n raglen arbennig sydd yn arwain disgyblion ar sut i ddatblygu llafaredd drwy’r ysgol yn draws bynciol. Mae CYDAG wedi rhedeg y rhaglen yng Nghaerfyrddin yn nhymor y Gwanwyn, ond bellach mae rhaglenni’n cael ei rhedeg yn Llandudno, Aberystwyth a Chaerdydd.

Osian Hughes a Catrin Roberts yw prif awduron y rhaglen. Mae’r rhaglen yn cynnwys 3 diwrnod o hyfforddiant ynghyd a mynediad i lith o adnoddau dysgu a chefnogaeth gan yr hyfforddwyr. Erbyn hyn, mae’r rhaglen wedi dechrau yn Llandudno ac yng Nghaerdydd.

Previous
Previous

Hyfforddiant Makaton

Next
Next

Hyfforddiant Pie Corbett ‘Talk4Writing’