Addysg Cwtch – cefnogi ysgolion i gyflwyno ACRh yn hyderus
Yn ystod tymor yr haf, mae CYDAG wedi gweithio mewn partneriaeth ag Addysg Cwtch i ddarparu cyfres o sesiynau hyfforddi am ddim i ymarferwyr ledled Cymru, gyda sesiwn genedlaethol ar-lein hefyd yn cael ei chynnal ar 9 Gorffennaf.
Mae Addysg Cwtch yn brosiect cenedlaethol sy’n cefnogi ysgolion i gyflwyno Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh) o ansawdd uchel mewn ffordd hyderus, gyson a phwrpasol. Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar gefnogi athrawon, arweinwyr a chymunedau ysgol gyfan i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn datblygu dealltwriaeth o berthnasoedd iach a chadarnhaol, wedi’u seilio ar empathi, ymddiriedaeth a pharch.
Roedd yr hyfforddiant yn rhoi cyfle i ymarferwyr ddatblygu eu dealltwriaeth o ACRh o fewn Cwricwlwm i Gymru, edrych ar yr ymchwil sy’n sail i’r maes, a magu hyder wrth gynllunio a chyflwyno’r ddarpariaeth yn eu hysgolion. Rhannwyd hefyd adnoddau dwyieithog ac enghreifftiau ymarferol, gyda chyfle i drafod tasgau a gweithgareddau y gellid eu defnyddio gyda dysgwyr.
Mae Addysg Cwtch yn rhan o fuddsoddiad cenedlaethol i gryfhau darpariaeth ACRh yng Nghymru, gan sicrhau bod ysgolion yn gallu cael mynediad at gymorth, adnoddau ac arbenigedd i’w helpu i gyflwyno’r maes yn effeithiol.
Roedd y gyfres o sesiynau, gan gynnwys yr hyfforddiant ar-lein ym mis Gorffennaf, yn gyfle gwerthfawr i CYDAG gefnogi ysgolion i ddatblygu eu hyder mewn maes sydd weithiau’n gallu teimlo’n heriol i ymarferwyr. Roedd y pwyslais drwy gydol yr hyfforddiant ar sicrhau bod ACRh yn cael ei gyflwyno mewn ffordd briodol, gynhwysol a sensitif, gan roi’r wybodaeth a’r gefnogaeth sydd eu hangen ar ysgolion i’w ymgorffori’n effeithiol yn eu cwricwlwm.