Hyfforddiant Sut i Greu Dysgwyr Annibynnol?
Ar 24 Mehefin yng Nghaerfyrddin ac ar 30 Mehefin yn Llandudno, cynhaliodd CYDAG ddiwrnodau hyfforddi ar ddatblygu dysgwyr annibynnol, dan arweiniad Cath Delve.
Roedd y sesiynau’n canolbwyntio ar gwestiwn syml ond pwysig: beth ydym ni fel oedolion yn ei wneud dros blant y gallent, mewn gwirionedd, ei wneud drostynt eu hunain? Roedd yr hyfforddiant yn pwysleisio bod annibyniaeth yn llawer mwy na gallu gweithio heb dorri ar draws athro, ac yn annog ysgolion i edrych ar ddatblygiad annibyniaeth drwy gydol y diwrnod ysgol.
Yn ystod y dydd, trafodwyd sut olwg sydd ar blentyn annibynnol, sut i hyrwyddo annibyniaeth ar draws y cwricwlwm a’r diwrnod ysgol, a’r prif rwystrau sy’n gallu atal plant rhag datblygu’r sgiliau hyn. Edrychwyd hefyd ar rôl ymddygiad oedolion, sut i fodelu a chanmol annibyniaeth, pwysigrwydd rhoi rolau a chyfrifoldebau i blant, llais y disgybl, hunanasesu ac asesu cyfoedion, a rhoi cyfleoedd rheolaidd i blant wneud penderfyniadau a dewisiadau drostynt eu hunain.
Defnyddiwyd nifer o enghreifftiau o arfer effeithiol drwy gydol y dydd, gyda’r nod o roi syniadau clir ac ymarferol i ysgolion ar sut i feithrin y sgil gydol oes bwysig hon mewn ffordd gyson.