Sioe Addysg Genedlaethol - Caerdydd
Roedd CYDAG yn falch o fynychu Sioe Addysg Genedlaethol yn yr Utilita, Caerdydd ar 2 Hydref, gan ymuno ag ystod eang o weithwyr addysg ac arweinwyr i drafod datblygiadau cyfredol ym maes addysg.
Drwy gydol y dydd, bu aelodau o dîm CYDAG yn croesawu ymwelwyr i'r stondin, gan drafod y gefnogaeth, yr hyfforddiant a'r cyfleoedd datblygiad proffesiynol sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd y digwyddiad yn gyfle gwych i sgwrsio ag ymarferwyr o bob sector ac i rannu gwybodaeth am waith a blaenoriaethau CYDAG.
Fel rhan o'i bartneriaeth â'r Sioe Addysg Genedlaethol, bu CYDAG yn cydlynu rhaglen o seminarau cyfrwng Cymraeg ar draws y ddwy Sioe Addysg eleni. Roedd y sesiynau'n cwmpasu ystod eang o themâu, gan gynnwys datblygu medrau darllen ar draws y cwricwlwm, strategaethau darllen effeithiol, trochi yn y blynyddoedd cynnar, chwarae i ddysgu, cryfhau llais y dysgwr, ac olrhain ac asesu cynnydd. Roedd y rhaglen yn sicrhau bod cyfleoedd dysgu proffesiynol o safon uchel ar gael yn Gymraeg fel rhan annatod o'r digwyddiadau.
Ymhlith y siaradwyr yng Nghaerdydd oedd Rhodri Jones, Arweinydd Cynradd CYDAG a chyn bennaeth ysgol gynradd, a gyflwynodd sesiwn ar y thema, "Beth sydd cyn Cam Cynnydd 1? Addasu darpariaeth Dysgu Sylfaen i gyd-fynd â Chwricwlwm Lleoliadau Nas Cynhelir". Bu'n archwilio'r camau ymarferol y gall lleoliadau ac ysgolion eu cymryd i sicrhau profiadau dysgu effeithiol a phwrpasol i ddysgwyr yn y blynyddoedd cynnar.
Roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle i atgyfnerthu partneriaethau presennol ac i greu cysylltiadau newydd gyda chydweithwyr ar draws y sector. Mae sicrhau presenoldeb mewn digwyddiadau cenedlaethol yn parhau'n flaenoriaeth i CYDAG, ac roedd yn braf gweld y gefnogaeth a'r diddordeb a ddangoswyd gan ymwelwyr drwy gydol y dydd.
Diolch i bawb a ddaeth draw i'n gweld. Roedd yn bleser cael rhannu syniadau, trafod datblygiadau yn y sector ac amlygu'r gwaith sy'n cael ei wneud i gefnogi addysg Gymraeg.