Diwrnod Meddygaeth CYDAG a Phrifysgol Bangor

Ar 22 Hydref, cynhaliwyd Diwrnod Meddygaeth CYDAG a Phrifysgol Bangor yn Ysgol Glan Clwyd, gan roi cyfle gwerthfawr i fyfyrwyr Blwyddyn 11 a 12 sy'n ystyried gyrfa ym maes meddygaeth a gofal iechyd ddysgu mwy am y proffesiwn a'r broses ymgeisio.

Dechreuodd y diwrnod gyda neges fideo arbennig gan y Gweinidog Iechyd, Mabon ap Gwynfor, a rannodd eiriau o anogaeth gyda'r myfyrwyr wrth iddynt ystyried eu camau nesaf tuag at yrfaoedd yn y sector iechyd. Cafodd y myfyrwyr hefyd gyfle i glywed gan academyddion, gweithwyr iechyd proffesiynol a myfyrwyr meddygaeth am eu profiadau a'r llwybrau sydd ar gael iddynt.

Drwy gydol y dydd, bu'r myfyrwyr yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithdai rhyngweithiol, gan gynnwys sgiliau clinigol, cymorth bywyd sylfaenol (BLS), paratoi ar gyfer prawf derbyn UCAT, a sesiynau ar gyfweliadau meddygaeth. Roedd y gweithgareddau hyn yn cynnig cipolwg realistig ar y sgiliau, y wybodaeth a'r rhinweddau sydd eu hangen i lwyddo yn y maes.

Roedd y diwrnod yn llwyddiant mawr, gan ysbrydoli'r myfyrwyr ac ehangu eu dealltwriaeth o'r cyfleoedd sydd ar gael iddynt ym maes meddygaeth a gofal iechyd. Hoffem ddiolch yn arbennig i Ysgol Glan Clwyd am ein croesawu a rhoi'r cyfle i ni gynnal y digwyddiad yn yr ysgol, yn ogystal â diolch i'r holl siaradwyr, hwyluswyr a phartneriaid a gyfrannodd at wneud y diwrnod yn brofiad mor werthfawr ac ysbrydoledig i'n pobl ifanc.

Next
Next

Sioe Addysg Genedlaethol - Caerdydd