Daeth penaethiaid ac arweinwyr o ysgolion cynradd ledled Cymru ynghyd yng Nghynhadledd Genedlaethol CYDAG Cynradd 2026 ar 16 Hydref am ddiwrnod llawn o ddiweddariadau cenedlaethol, dysgu proffesiynol, rhannu arfer da a thrafod materion strategol.
Roedd y gynhadledd yn gyfle gwerthfawr i drafod rhai o'r datblygiadau pwysicaf sy'n wynebu addysg Gymraeg ar hyn o bryd. Cafodd y mynychwyr ddiweddariadau gan Estyn, Tîm Gwella Ysgolion Llywodraeth Cymru, a Dysgu, gan rannu gwybodaeth am flaenoriaethau cenedlaethol, yr heriau a'r datblygiadau o fewn y sector a'r gefnogaeth sydd ar gael i ysgolion. Cafwyd hefyd gyflwyniad gan Adnodd yn arddangos yr ystod o adnoddau digidol sydd ar gael i gefnogi addysgu a dysgu, ynghyd â gwybodaeth am ddatblygiadau ac adnoddau newydd sydd ar y gweill i ysgolion Cymru.
Cafwyd sesiwn hefyd yn canolbwyntio ar gyfleoedd STEM i ddysgwyr cynradd, gan amlygu ffyrdd y gall ysgolion ddatblygu chwilfrydedd, creadigrwydd a sgiliau datrys problemau ymhlith eu disgyblion. Yn ogystal, cafwyd cyflwyniad gan Dr Manon Jones o Brifysgol Bangor ar waith CAL:ON, menter genedlaethol ar gyfer llythrennedd sy’n datblygu dulliau ac adnoddau seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer dysgu darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg a Saesneg. Mae’r gwaith yn cynnwys ffocws ar ddatblygiad iaith, ffoneg, rhuglder a dealltwriaeth, ac yn cyd-fynd yn agos â gwaith presennol CYDAG ar Tric a Chlic a’r hyfforddiant Beth Nesaf? Mewn Byd o Eiriau!. Rhannwyd hefyd wybodaeth am y cyfleoedd sydd ar gael i ysgolion a dysgwyr drwy'r fenter gyffrous hon.
Un o gryfderau'r gynhadledd oedd y cyfle i rwydweithio â chydweithwyr o bob rhan o Gymru, gan rannu syniadau, profiadau ac arferion llwyddiannus mewn awyrgylch cefnogol a chydweithredol. Roedd y trafodaethau anffurfiol rhwng y sesiynau yn werthfawr iawn wrth feithrin cysylltiadau newydd a rhannu atebion ymarferol i heriau cyffredin.
Hoffai CYDAG ddiolch yn ddiffuant i'r holl siaradwyr, cyfranwyr a mynychwyr am eu cefnogaeth a'u hymrwymiad parhaus i addysg Gymraeg. Roedd llwyddiant y gynhadledd yn adlewyrchu'r ymrwymiad cryf sydd ledled Cymru i sicrhau'r profiadau a'r cyfleoedd gorau posibl i'n dysgwyr.
Edrychwn ymlaen at adeiladu ar y syniadau a rannwyd yn ystod y dydd wrth barhau i gydweithio er budd addysg Gymraeg a'n hysgolion cynradd.