23 a 24.9.25 - Hyfforddiant ‘Nol at ein Coed’ gan ‘Y Pethau Bychain’

Wedi llwyddiant yr hyfforddiant diwethaf, penderfynom i’w ail redeg yn nhymor yr Hydref. Unwaith yn rhagor, cafodd y mynychwyr eu hysbrydoli i wneud mwy o ddefnydd o’r tu allan gyda’u disgyblion. Bu’r criw yn lwcus iawn o’r tywydd a dau ddiwrnod buddiol gyda’r ddwy Nia o’r cwmni ‘Y Pethau Bychain’. Roedd y diwrnod cyntaf yn canolbwyntio ar sut i gael y disgyblion adnabod a chyfarwyddo gyda’u teimladau drwy ddilyn yr adnodd ‘Mewn Glôb’. Ar yr ail ddiwrnod, cafodd y mynychwyr syniadau am weithgareddau i wneud tu allan.

“Hyfforddiant hollol wych. Rwyf wedi elwa yn sylweddol fel unigolyn ac athrawes! Byddaf yn dychwelyd i’r ysgol wedi fy ysbrydoli i gynnal sesiynau holistig tu allan gyda’r disgyblion.”

“Roedd y cwrs yn fuddiol iawn gan ei fod wedi rhoi cyfle i mi ddyfnhau fy nealltwriaeth o addysg yn yr awyr agored, rhannu syniadau gydag eraill, ac ystyried dulliau ymarferol y gallaf eu rhoi ar waith yn fy ngwaith bob dydd. Rwyf yn teimlo’n fwy hyderus ac yn edrych ymlaen at ddefnyddio rhai o’r strategaethau a drafodwyd. “

Previous
Previous

Cynhadledd Flynyddol CYDAG Cynradd 2025

Next
Next

24.6.25 - Hyfforddiant ‘Cynllunio yn y Foment’ gyda Anna Ephgrave