Cynhadledd Flynyddol CYDAG Cynradd 2025
‘Y Negeseuon Diweddaraf o’r Byd Addysg Gynradd’ oedd thema ein cynhadledd ar gyfer y sector cynradd yn Aberystwyth eleni. Dechreuodd y gynhadledd gyda chroeso gan Brif Weithredwr CYDAG, Dr Gwennan Schiavone a’r Arweinydd Cynradd, Rhodri Gwyn Jones. Y siaradwr cyntaf oedd Alun Jones, Pennaeth Tîm Gwella Addysg Llywodraeth Cymru. Rhoddodd Alun gyflwyniad ar weledigaeth y Llywodraeth ar sut all Awdurdodau Lleol ac ysgolion gyd-weithio er mwyn sicrhau gwella parhaus. Nesaf, rhoddodd Trystan Williams, Cydlynydd Cenedlaethol ADY, ddiweddariad ar yr hyn oedd yn digwydd yn genedlaethol yn y maes ADY a’r Gymraeg. Wedi paned, rhoddodd Emyr George, Prif Weithredwr Adnodd, gyflwyniad am y gwaith maen nhw’n ei wneud i greu a chomisiynu adnoddau ar gyfer ysgolion. Y siaradwr olaf cyn cinio oedd Meurig Jones, Dirprwy prif weithredwr Dysgu. Rhannodd Meurig wybodaeth am y corff dysgu proffesiynol cenedlaethol newydd a rhoddodd gyfle i’r mynychwyr roi mewnbwn i’r anghenion datblygiad proffesiynol sydd yn y sector er mwyn llywio cyfeiriad Dysgu.
Yn y prynhawn, cyflwynodd Kayleigh Bickford, Swyddog Gweithredu’r Cwricwlwm Mudiad Meithrin, sut i weithredu’r ‘Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin ariennir nas cynhelir’. Mae Estyn a Llywodraeth Cymru’n annog ysgolion i ddefnyddio’r cwricwlwm hwn yn y blynyddoedd cynnar ac felly, roedd cynnwys ei chyflwyniad yn amserol iawn. Nesaf, oedd Richard Thomas AEF Estyn. Roedd cyflwyniad Richard wir yn ddefnyddiol wrth iddo rannu’r drefn newydd o arolygu a’r prif ganfyddiadau o’r meysydd cadarnhaol a’r rhai oedd angen sylw pellach yn y sector cynradd. I orffen y dydd, rhoddodd Nia Evans o Brifysgol Cymru'r Drindod Dewi Sant gyflwyniad ar bwysigrwydd rhaglenni ffoneg synthetig i addysgu sgiliau darllen cynnar. Roedd y cyflwyniad yn amserol iawn gan fod darllen yn flaenoriaeth genedlaethol ac roedd Nia’n holi cwestiynau oedd yn gwneud i’r mynychwyr adlewyrchu ar strategaethau darllen eu hysgol.
Diolch yn fawr iawn i bawb mynychodd ac i’r holl siaradwyr am eu cyfraniad gwerthfawr.