Hyfforddiant ‘Tric a Chlic’ a ‘Beth nesaf? Mewn Byd o Eiriau’ yn Genedlaethol!
Ar 31 Ionawr 2025, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddiweddariadau i ganllawiau fframwaith Cwricwlwm i Gymru, gan egluro rhannau o’r canllawiau Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu. Mae’r diweddariad yn pwysleisio bod “rhaid i addysgu ffoneg, yn systematig ac yn gyson, fod yn rhan allweddol o ddull ysgolion o ddysgu darllen.
Yn sgil hyn, mae CYDAG wedi llwyddo i ennill grant i weithredu hyfforddiant rhaglen ffoneg synthetig yn genedlaethol; Caernarfon, Llandudno, Wrecsam, Aberystwyth, Llandrindod, Hwlffordd, Abertawe, Caerdydd
Rydym wedi cynnal y ddeuddydd yng Nghaerdydd a bydd y nesaf yn cael ei gynnal yng Nghaernarfon.
Diwrnod 1 oedd hyfforddiant swyddogol rhaglen Tric a Chlic. Mae gwaith ymchwil wedi dangos nad oes unrhyw amheuaeth mai rhaglen ffoneg yw'r dull fwyaf effeithiol i ddisgyblion ddysgu sgiliau darllen cynnar. Mae rhaglen ffoneg Tric a Chlic yn cael ei chysidro ymysg y gorau drwy gyfrwng y Gymraeg ac roedd yr hyfforddiant yn amlinellu sut i'w weithredu'n effeithiol.
Roedd Diwrnod 2 yn hyfforddiant sydd yn canolbwyntio ar beth ddylai ysgolion wneud ar ôl i ddisgyblion gwblhau'r rhaglen ffoneg - Tric a Chlic, beth nesaf? Roedd y diwrnod llawn syniadau ymarferol ar sut i barhau i ddatblygu medrau darllen dysgwyr mewn byd sy'n llawn o eiriau.