Hyfforddiant Pie Corbett ‘Talk4Writing’
Cynhaliwyd hyfforddiant ‘Talk4Writing/Pie Corbett’ gyda’r hyfforddwraig swyddogol, Carol Satterthwaite, yn Llandudno ar y 12fed o Dachwedd, gyda dyddiadau eraill wedi eu trefnu yng Nghaerdydd ac yng Nghaerfyrddin y tymor hwn. Arddangoswyd strategaethau ar sut i rannu storiau gyda phlant ar lafar gan greu symudiadau i gyd-fynd a’r testun. Bydd hyn yn arfogi’r plant i allu adrodd y storiau eu hunain ac i ddefnyddio’r eirfa maen nhw’n ei ddysgu yn eu hysgrifennu.
Mae CYDAG yn falch o gyhoeddi fod Pie Corbett wedi rhoi’r hawl i CYDAG gyfieithu adnoddau swyddogol ‘Talk4Writing’ i’r Gymraeg. Mae’r adnoddau hyn yn cael eu rhannu am ddim i bawb sydd yn mynychu’r hyfforddiant.