Hyfforddiant ‘Cynnydd Mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg’ gyda Karen Mills a Nerys Tudor Jones
‘Mae lleiafrif o ysgolion yn darparu cyfleoedd addas i ddisgyblion gymhwyso eu sgiliau llythrennedd, rhifedd a digidol yn annibynnol mewn cyd-destunau ystyrlon. Yn rhy aml, nid yw ysgolion wedi datblygu eu dealltwriaeth o ddatblygiad yn ddigonol ac nid yw disgyblion yn cymhwyso eu sgiliau ar lefel ddigon uchel.’
Mewnwelediadau Cynnar Estyn 2025
“Mae cwricwlwm llwyddiannus, a gefnogir gan addysgu ac athrawon effeithiol, yn galluogi dysgwyr i wneud cynnydd ystyrlon.”
Y Cwricwlwm i Gymru: Cod Cynnydd paragraff 2.1
Roedd y cwrs hwn yn ystyried datblygiad sgiliau Gwyddoniaeth a Thechnoleg, gan dynnu sylw at y cyfleoedd cyfoethog i ddatblygu sgiliau llythrennedd, rhifedd a digidol.
Cafodd y mynychwyr gyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau STEM a Thechnoleg Dylunio ymarferol, a oedd yn meithrin priodoleddau personol a sgiliau trawsgwricwlaidd datblygiadol.
Cafodd pob mynychwr gopïau o’r Camau Pontio Gwyddoniaeth a Thechnoleg – Cynllun Datblygiad Tymor Hir, Llyfryn Syniadau ar gyfer Gwyddoniaeth a Thechnoleg Cam Cynnydd 1, a Banc o Ymchwiliadau Gwyddoniaeth ar gyfer Blwyddyn 1 i 6 – ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.