Lansio’r ‘Ystafell Athrawon’ gyntaf erioed yn Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026
Bydd Ystafell Athrawon newydd sbon yn cael ei lansio yn Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn eleni, gan gynnig man pwrpasol i staff ysgolion o bob cwr o Gymru i ymlacio, rhwydweithio a chymryd hoe o brysurdeb yr wythnos gystadlu.
Sefydlwyd yr Ystafell Athrawon gan CYDAG, Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru a e-sgol, gyda chefnogaeth Urdd Gobaith Cymru a Llywodraeth Cymru. Bydd y babell yn darparu amgylchedd croesawgar lle gall athrawon a staff addysg ddod at ei gilydd i gael lluniaeth, gwefru dyfeisiadau, derbyn cymorth a gwybodaeth ac ysbrydoliaeth yn ystod yr Eisteddfod.
Yn ogystal, bydd amrywiaeth o gyrff sy’n cynnig cefnogaeth i athrawon yn bresennol ar wahanol ddiwrnodau’r wythnos. Ymhlith y rhain mae Adnodd, Medr, Dysgu, Niwroamrywiaeth Cymru ac Addysgwyr Cymru, gan sicrhau bod ystod eang o arbenigedd a chefnogaeth ar gael i staff ysgolion.
Bydd modd i ymwelwyr fanteisio ar Wal Wybodaeth, sesiynau dysgu a rhannu ymarfer da, ynghyd â llawer mwy, gan wneud yr Ystafell Athrawon yn ganolbwynt i gefnogaeth broffesiynol ac ysbrydoliaeth addysgol yn ystod yr ŵyl.
Y cyrff sy’n cydweithio
· Mae CYDAG yn gorff cenedlaethol gweithgar a blaengar sy’n cefnogi’r system addysg Gymraeg drwy ddarparu llais cryf, cefnogaeth strategol a chyfleoedd datblygu i ysgolion a’r gweithlu addysg www.cydag.cymru/
· Mae Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru yn gyfrifol am weithredu’r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Cerddoriaeth ar ran Llywodraeth Cymru, gan weithio’n agos gyda ysgolion, athrawon a phartneriaid cenedlaethol i ddarparu addysg cerddoriaeth. www.gwasanaethcerdd.cymru
· Mae e-sgol yn fenter arloesol sy’n defnyddio technoleg ddigidol i ehangu cyfleoedd dysgu, gan alluogi disgyblion a staff ysgolion ledled Cymru i gydweithio, rhannu arbenigedd a chael mynediad at bynciau a darpariaeth arbenigol. www.e-sgol.cymru
Bydd Llywydd y dydd, Tudur Owen, yn agor yr Ystafell Athrawon yn swyddogol ar ddydd Sul, 24 Mai, gan nodi dechrau menter newydd gyffrous i gefnogi a dathlu athrawon a staff addysg o fewn fframwaith Eisteddfod yr Urdd.
Am fwy o fanylion cysylltwch â CYDAG: Gwennan Schiavone gwennan.schiavone@cydag.cymru Gwasanaeth Cerdd Cymru: Sara Gibson sara.gibson@wlga.gov.uk e-sgol: Llifon Ellis llifon.ellis@e-sgol.cymru