Llwyddiant ysgubol i lansiad ‘Ystafell Athrawon’ yn Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026
Bu lansiad Ystafell Athrawon ar faes Eisteddfod yr Urdd yn lwyddiant ysgubol, gyda’r comedïwr a'r darlledwr, Tudur Owen, un o lywyddion yr ŵyl, yn ei hagor yn swyddogol. O’r cychwyn cyntaf, roedd hi’n amlwg bod y fenter wedi taro deuddeg, gyda rhaglen o sesiynau ysbrydoledig, cyfleoedd gwerthfawr i rannu arferion da, a sgyrsiau difyr rhwng addysgwyr o bob cwr o Gymru.
Roedd cydweithio cryf rhwng e-Sgol a Gwasanaeth Cerdd Cymru yn allweddol i wireddu’r syniad, gyda chefnogaeth werthfawr gan Lywodraeth Cymru a’r Urdd.
Yn ystod yr wythnos, cynhaliwyd cyfarfodydd cadarnhaol gyda’r Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, Anna Brychan a’r Dirprwy Weinidog Sgiliau ac Addysg Drydyddol, Cefin Campbell, gan bwysleisio pwysigrwydd cydweithio i sicrhau dyfodol cryf i addysg Gymraeg. Roedd partneriaethau strategol a chydweithio ag amrywiaeth o sefydliadau allweddol yn ganolog i lwyddiant yr wythnos, gan greu cyfleoedd gwerthfawr i rwydweithio, rhannu syniadau a datblygu cysylltiadau newydd. Cynhaliwyd ystod eang o sesiynau drwy gydol yr wythnos a oedd yn ysbrydoledig, addysgol ac yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i drafod materion cyfoes ym maes addysg.
Hoffem ddiolch yn gynnes i noddwyr yr wythnos – Adnodd, Medr, Niwrowahaniaeth Cymru, Dysgu ac Addysgwyr Cymru am eu cefnogaeth hanfodol.
Diolch i bawb a alwodd heibio. Gobeithiwn fod yr Ystafell Athrawon wedi bod yn fan croesawgar a phwrpasol i staff ysgolion o bob cwr o Gymru ymlacio, rhwydweithio a chymryd hoe o brysurdeb cystadlu ar faes yr Eisteddfod.