Cynadleddau Haf 2026 CYDAG Uwchradd
Bu’n gyfnod prysur a llwyddiannus iawn i CYDAG dros yr wythnosau diwethaf wrth i ni gynnal tair cynhadledd haf ranbarthol ar draws Cymru, gan ddod a phenaethiaid ysgolion uwchradd a phob oed ynghyd i drafod y datblygiadau diweddaraf, a’r blaenoriaethau allweddol sy’n wynebu’r sector. Mae'r cynadleddau wedi datblygu'n gyfleoedd gwerthfawr i rwydweithio, cydweithio a rhannu arfer da.
Ym mhob un o'r cynadleddau cafwyd diweddariadau gan Lywodraeth Cymru ar ddatblygiadau polisi ac ar ofynion y Ddeddf Addysg Gymraeg, a thrafodaethau ar gynlluniau datblygu’r gweithlu a’r camau nesaf ar gyfer cryfhau’r ddarpariaeth Gymraeg ledled Cymru. Roedd y sesiynau hyn yn rhoi cyfle i aelodau ofyn cwestiynau, trafod oblygiadau lleol ac ystyried sut i ymateb yn strategol i’r newidiadau sydd ar y gweill. Cyflwynodd Claire Horton, Pennaeth y Gangen Llywodraethant, Trefniadaeth a Derbyniadau i Ysgolion, wybodaeth am yr adolygiad o lywodraethant ysgolion. Rhoddodd drosolwg o'r gwaith sydd ar y gweill ac amlinellodd gyfleoedd i gyfrannu at yr ymgynghoriad a'r cynlluniau datblygu.
Cafwyd cyfraniadau gwerthfawr hefyd gan Ian Morgan, Prif Weithredwr CBAC, gyda diweddariadau ar gymwysterau, asesiadau a datblygiadau perthnasol i ysgolion uwchradd; ynghyd a chyflwyniadau gan Gwenllian Lansdown-Davies, Prif Weithredwr a Meurig Jones, Cyfarwyddwr Rhagoriaeth Dysgu a Blaenoriaethau Cenedlaethol, ar waith Dysgu a blaenoriaethau'r sefydliad. Yn ogystal, cafwyd diweddariad ar gynlluniau datblygu capasiti a’r gwaith parhaus o gefnogi twf ac ehangu addysg Gymraeg. Roedd rhain yn arbennig o berthnasol wrth i ysgolion a chlystyrau edrych ymlaen, a chynllunio ar gyfer y dyfodol.
Eleni am y tro cyntaf, cyflwynwyd sesiwn datblygiad proffesiynol ac arweinyddiaeth fel rhan o'r cynadleddau, gyda sesiwn arbennig ar feithrin diwylliant o arweinyddiaeth a rhagoriaeth dan arweiniad Dr Ioan Rees. Mae’r gwaith hwn yn rhan o gynllun Campus SYCOL, rhaglen sy’n cefnogi ysgolion i ddatblygu arweinyddiaeth effeithiol a chryfhau diwylliant ysgol gyfan. Cafwyd cyflwyniadau ysbrydoledig a thrafodaethau adeiladol a oedd yn annog myfyrio ar sut i greu amgylcheddau ysgol cryf, cynaliadwy a blaengar. Roedd y sesiynau hyn yn gyfle gwerthfawr i ystyried pwysigrwydd arweinyddiaeth effeithiol wrth lywio newid, datblygu staff a sicrhau safonau uchel ar draws y sector.
Yn ogystal â’r cynnwys ffurfiol, roedd y cynadleddau’n gyfle pwysig i aelodau CYDAG ddod at ei gilydd i drafod materion busnes, adolygu strwythurau pwyllgorau, rhannu diweddariadau ac ystyried y blaenoriaethau strategol ar gyfer y flwyddyn i ddod. Roedd y trafodaethau hyn yn tanlinellu pwysigrwydd cydweithio a sicrhau llais cryf ar gyfer addysg Gymraeg ar lefel genedlaethol a rhanbarthol.
Hoffai CYDAG ddiolch yn ddiffuant i bawb a fynychodd y dair cynhadledd ac i’r holl gyfranwyr a siaradwyr a rannodd eu harbenigedd, eu profiadau a’u mewnwelediadau. Roedd eich presenoldeb a’ch cyfraniad yn allweddol i lwyddiant y digwyddiadau hyn.
Wrth edrych ymlaen, mae’r momentwm a’r trafodaethau a grëwyd dros y cynadleddau hyn yn gosod sylfaen gadarn ar gyfer y misoedd nesaf. Edrychwn ymlaen yn fawr at ddod ynghyd unwaith eto yn ein Cynhadledd Genedlaethol ym mis Medi, lle bydd cyfle pellach i adeiladu ar y gwaith pwysig hwn ac i barhau i gryfhau dyfodol addysg Gymraeg yng Nghymru.