Defnydd Effeithiol o AI Mewn Addysg 

Ar 27 Ionawr yn Llandudno ac eto ar 3 Chwefror yng Nghaerdydd, cynhaliodd CYDAG ddiwrnod hyfforddi dan arweiniad Tom Lewis ar ddefnydd effeithiol o Ddeallusrwydd Artiffisial mewn addysg. 

Gyda AI yn parhau i fod yn bwnc llosg ym myd addysg, roedd y sesiynau’n rhoi cyfle i athrawon, penaethiaid a staff gweinyddol ddatblygu eu dealltwriaeth o sut y gellir defnyddio’r dechnoleg yn ymarferol ac yn effeithiol yn eu gwaith bob dydd.

Yn ystod y dydd, cafodd y cyfranogwyr arweiniad ar sut i lunio promptiau effeithiol, sut i gael ymatebion o ansawdd gwell, a sut y gall AI gynorthwyo gydag amrywiaeth o dasgau – boed hynny wrth gynllunio a pharatoi fel athro, arwain ysgol fel pennaeth, neu gefnogi gwaith gweinyddol. Roedd y defnydd o ‘master prompts’ yn rhan allweddol o’r hyfforddiant, gan roi adnoddau ymarferol i’r cyfranogwyr eu defnyddio’n syth yn eu gwaith. 

Roedd yr ymateb i’r sesiynau yn hynod gadarnhaol, gydag un cyfranogwr yn disgrifio’r hyfforddiant fel “agoriad llygaid hyd yn oed fel rhywun sydd yn defnyddio AI yn aml”, ac un arall yn nodi: “bydd yr hyfforddiant hwn yn arbed nifer fawr o amser i mi”. 

Previous
Previous

Rhifedd mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg 

Next
Next

Cynadleddau Haf 2026 CYDAG Uwchradd