Rhifedd mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg 

Ar 24 Chwefror yn Llandudno ac ar 22 Mai yng Nghaerfyrddin, cynhaliodd CYDAG ddiwrnodau hyfforddi ar thema Rhifedd mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg, dan arweiniad Karen Mills a Nerys Tudor Jones o Collective Learning. 

Gyda rhifedd yn parhau i fod yn flaenoriaeth genedlaethol, roedd y sesiynau’n rhoi cyfle i athrawon, penaethiaid ac arweinwyr rhifedd ystyried sut y gellir cymhwyso a datblygu sgiliau rhifedd yn effeithiol o fewn Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg. 

Roedd pwyslais cryf ar ddulliau ymarferol, gyda’r cyfranogwyr yn cael cyfle i roi cynnig ar nifer o weithgareddau y gellid eu haddasu a’u defnyddio’n uniongyrchol yn yr ystafell ddosbarth. Trafodwyd hefyd sut i sicrhau bod cyfleoedd i ddatblygu rhifedd yn bwrpasol ac yn ystyrlon, yn hytrach na’u cynnwys fel elfen ychwanegol. 

Roedd yr adborth yn gadarnhaol iawn. Disgrifiodd un cyfranogwr y sesiwn fel “cwrs llawn gwybodaeth ddefnyddiol sydd o fudd i ni yn yr ysgol”, tra nododd un arall ei fod yn “gyfle i wneud gweithgareddau ymarferol” gyda “llwyth o wybodaeth defnyddiol a chyfle i drafod a rhannu profiadau a syniadau”, gan ddisgrifio’r cyflwyniad fel un “gwerthfawr iawn”. 

Previous
Previous

Cynllunio eich Cwricwlwm Dyniaethau Cynradd

Next
Next

Defnydd Effeithiol o AI Mewn Addysg