Cynllunio eich Cwricwlwm Dyniaethau Cynradd

Ar 16 Ebrill yn Llandudno ac ar 30 Ebrill yng Nghaerfyrddin, cynhaliodd CYDAG ddau ddiwrnod hyfforddi ar gynllunio cwricwlwm effeithiol ar gyfer Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau, dan arweiniad Nicky Hagendyk. 

Daeth yr hyfforddiant mewn ymateb i alw cynyddol gan ysgolion am gymorth yn y maes hwn, ac roedd y sesiynau’n rhoi cyfle i athrawon, penaethiaid ac arweinwyr maes dysgu edrych o’r newydd ar sut i gynllunio’r Dyniaethau o’r Meithrin hyd at Flwyddyn 6. 

Yn ystod y dydd, trafodwyd sut i ddewis themâu lleol a rhyngwladol pwrpasol, sut i fynd yn ddyfnach i mewn i’r themâu hynny, a sut i sicrhau bod disgyblion yn datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau cywir wrth iddynt symud drwy’r ysgol. Roedd y sesiwn yn cynnig nifer o enghreifftiau ymarferol ac yn herio’r cyfranogwyr i ailystyried rhai o’u dulliau cynllunio presennol. 

I nifer o’r mynychwyr, roedd y diwrnod yn agoriad llygad ar sut y gellir addysgu’r Dyniaethau mewn ffordd fwy pwrpasol a chydlynol. Roedd rhai yn cydnabod bod yr hyfforddiant wedi peri iddynt ailfeddwl am y ffordd yr oeddent wedi bod yn cynllunio ac addysgu’r maes hyd yma. 

Ar ddiwedd y sesiynau, rhannwyd ystod o adnoddau defnyddiol gyda’r cyfranogwyr i’w cefnogi wrth ddatblygu eu cynllunio yn ôl yn yr ysgol. 

Previous
Previous

Sut i ddelio gyda disgyblion ag anghenion emosiynol? 

Next
Next

Rhifedd mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg