Sut i ddelio gyda disgyblion ag anghenion emosiynol? 

Ar 28 Ebrill yng Nghaerfyrddin ac ar 5 Mai yn Llandudno, cynhaliodd CYDAG ddau ddiwrnod hyfforddi dan arweiniad Dr Coral Harper, yn canolbwyntio ar sut i gefnogi disgyblion ag anghenion emosiynol ac ymddygiad heriol. 

Trefnwyd yr hyfforddiant mewn ymateb i bryderon cynyddol gan ysgolion am gynnydd mewn ymddygiad heriol, ac roedd y sesiynau’n arbennig o berthnasol i gydlynwyr ADY a phenaethiaid. 

Yn ystod y dydd, trafodwyd sut y gall trawma ac anghenion emosiynol effeithio ar ymddygiad plentyn, ynghyd â’r hyn sy’n digwydd yn yr ymennydd pan fydd plentyn yn cael trafferth rheoleiddio ei emosiynau. Cyflwynwyd hefyd ddulliau ymarferol o ymateb i ymddygiad heriol, gan gynnwys egwyddorion WINE – megis defnyddio chwilfrydedd, empathi a cheisio deall beth allai fod wrth wraidd yr ymddygiad – yn ogystal â strategaethau i helpu plant i reoleiddio eu hunain. 

Un o brif negeseuon y dydd oedd pwysigrwydd edrych y tu hwnt i’r ymddygiad ei hun. Nododd nifer o’r mynychwyr fod yr hyfforddiant wedi newid y ffordd yr oeddent yn gweld ac yn dehongli ymddygiad heriol, gan eu helpu i ystyried beth allai’r plentyn fod yn ei gyfathrebu drwy ei ymddygiad. 

Roedd yr adborth yn gadarnhaol iawn, gydag un cyfranogwr yn gwerthfawrogi’r “cyfle i sgwrsio a thrafod profiadau” yn ogystal ag “ansawdd gwych yr hyfforddiant a chyfeiriadau at adnoddau perthnasol”. Nododd un arall fod y sesiwn yn cynnig “negeseuon pwysig gyda eglurhad o’r hyn sydd yn digwydd pan mae plant yn ymddwyn mewn gwahanol ffyrdd”. 

Previous
Previous

CYDAG yn y Sioe Addysg Genedlaethol

Next
Next

Cynllunio eich Cwricwlwm Dyniaethau Cynradd