CYDAG yn y Sioe Addysg Genedlaethol

Roedd CYDAG yn falch iawn o fod yn rhan o’r Sioe Addysg Genedlaethol yn Venue Cymru, Llandudno ar 12 Mehefin, mewn diwrnod prysur a llawn cyfleoedd i rannu syniadau, dysgu proffesiynol a chysylltu ag ymarferwyr addysg o bob cwr o Gymru. 

Roedd gan CYDAG stondin yn y sioe, gan roi cyfle i aelodau’r tîm gwrdd ag athrawon, penaethiaid ac arweinwyr addysg, trafod gwaith y sefydliad a rhannu gwybodaeth am y cyfleoedd hyfforddi a’r gefnogaeth sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Yn ogystal â’r stondin, roedd CYDAG wedi gweithio gyda threfnwyr y Sioe i drefnu nifer o seminarau drwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod y dydd. Roedd hyn yn rhan bwysig o’n presenoldeb, gan sicrhau bod cyfleoedd dysgu proffesiynol o safon ar gael yn Gymraeg fel rhan annatod o raglen ehangach y digwyddiad. 

Roedd y seminarau Cymraeg yn cwmpasu ystod o bynciau perthnasol i ysgolion ac ymarferwyr, gan roi cyfle i gyfranogwyr glywed gan siaradwyr profiadol, rhannu arfer effeithiol a chael syniadau ymarferol i’w defnyddio yn eu lleoliadau eu hunain. 

Roedd yn wych gweld cymaint o bobl yn galw heibio stondin CYDAG yn ystod y dydd, ac yn arbennig o galonogol gweld y galw am ddarpariaeth a dysgu proffesiynol drwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd y Sioe yn gyfle gwerthfawr i godi ymwybyddiaeth o waith CYDAG, cryfhau cysylltiadau presennol a ffurfio cysylltiadau newydd gyda gweithwyr addysg o bob rhan o Gymru. 

Previous
Previous

Hyfforddiant Tric a Chlic a ‘Beth Nesaf? Mewn Byd o Eiriau?’

Next
Next

Sut i ddelio gyda disgyblion ag anghenion emosiynol?