Hyfforddiant Tric a Chlic a ‘Beth Nesaf? Mewn Byd o Eiriau?’

Yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf, mae CYDAG wedi cynnal rhaglen helaeth o hyfforddiant darllen cynnar mewn lleoliadau ledled Cymru. Gyda darllen yn flaenoriaeth genedlaethol, roedd y rhaglen yn ymateb i’r angen i gefnogi ysgolion i ddatblygu addysgu darllen yn systematig, yn gyson ac yn effeithiol. 

Cynhaliwyd dau ddiwrnod hyfforddi ym mhob lleoliad – ‘Hyfforddiant Tric a Chlic’ a ‘Beth Nesaf? Mewn Byd o Eiriau?’ – yng Nghaerdydd, Caernarfon, Llandrindod, Hwlffordd, Wrecsam, Llandudno, Abertawe ac Aberystwyth, gyda chyfres ychwanegol yn cael ei chynnal yn Llandudno oherwydd y galw. 

Roedd y diwrnod cyntaf, ‘Hyfforddiant Tric a Chlic’, yn canolbwyntio ar roi dealltwriaeth gadarn i ymarferwyr o sut i ddefnyddio’r rhaglen ffoneg yn effeithiol. Roedd y sesiynau’n edrych ar sut i gyflwyno’r berthynas rhwng llythrennau a seiniau mewn ffordd systematig, sut i ddatblygu sgiliau cyfuno a segmentu, a sut i sicrhau dilyniant clir wrth i blant ddatblygu eu gallu i ddatgodio geiriau. 

Mae’r ymchwil i addysgu darllen cynnar yn pwysleisio pwysigrwydd dull ffonegol systematig. Mae ffoneg yn rhoi’r blociau adeiladu sydd eu hangen ar blant i ddatgodio geiriau ac i ddechrau darllen yn annibynnol. Am y rheswm hwn, roedd sicrhau bod ymarferwyr yn hyderus wrth ddefnyddio Tric a Chlic yn rhan greiddiol o’r rhaglen hyfforddi. 

Roedd yr ail ddiwrnod, ‘Beth Nesaf? Mewn Byd o Eiriau?’, yn canolbwyntio ar y cam nesaf yn natblygiad darllen plant ar ôl iddynt gwblhau Tric a Chlic. Roedd y sesiwn yn edrych ar sut i symud plant ymlaen o ddatgodio geiriau i ddatblygu mwy o ruglder, geirfa, dealltwriaeth a hyder fel darllenwyr annibynnol. 

Roedd y ddau ddiwrnod felly wedi’u cynllunio i gyd-fynd â’i gilydd. Roedd y cyntaf yn canolbwyntio ar adeiladu sylfaen gadarn mewn ffoneg, a’r ail yn helpu ysgolion i gynllunio’r camau nesaf fel bod plant yn parhau i wneud cynnydd ar ôl cwblhau’r rhaglen. 

Mae’r ymateb i’r hyfforddiant wedi bod yn arbennig o gadarnhaol. Derbyniwyd 163 o ymatebion i holiadur adborth Hyfforddiant Tric a Chlic, gyda dros 95% o’r ymatebwyr yn rhoi sgôr o 4 neu 5 allan o 5 am eu hyder i gyflwyno’r rhaglen yn dilyn y cwrs. Roedd pob un o’r ymatebwyr yn rhoi sgôr o 4 neu 5 am ddefnyddioldeb cynnwys yr hyfforddiant.  

Mae gwaith dilynol hefyd wedi rhoi cipolwg calonogol ar gynnydd disgyblion. Mewn un sampl o 80 o blant, roedd bron pob un wedi gwneud cynnydd.  

Drwy ddarparu’r ddau ddiwrnod hyfforddi ochr yn ochr, roedd CYDAG yn gallu cefnogi ysgolion gyda thaith ddarllen fwy cyflawn – o’r camau cyntaf o ddatblygu sgiliau ffonegol, hyd at helpu plant i ddod yn ddarllenwyr rhugl, hyderus sy’n deall ac yn mwynhau’r hyn maent yn ei ddarllen.   

Mae CYDAG yng nghanol trefnu mwy o hyfforddiant Tric a Chlic! 

Previous
Previous

Hyfforddiant Dysgu yn yr Awyr Agored 

Next
Next

CYDAG yn y Sioe Addysg Genedlaethol